bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Gwr cadarn gwladgarol

Atgofion cyfaill: Gwilym Owen yn cofio cwmnïwr, cymeriad a chyfaill

Cwmnïwr, cymeriad, cyfaill. Dyna fel bydda i’n cofio Gwenlyn. A thros flynyddoedd o adnabyddiaeth ohono fe welais i’r tair agwedd yna ar eu gorau.

Fe dreuliais i oriau lawer yn seiadu efo fo a chriw o "eneidiau hoff cytûn". Ac fe fu’r gwmnïaeth yma yn un o bleserau mawr bywyd. A Gwenlyn yn fwy aml na pheidio fyddai’r brenin yn y cwmni.

Storïwr heb ei ail

Roedd ganddo ddawn dweud straeon na welais ei thebyg. Fe deimlais i fwy nag unwaith y gallai fod wedi bod yn gystal actor ag oedd o ddramodydd.

Sawl gwaith, clywais i o yn deud stori amdano yn cael ei holi am ddigwyddiad ar y maes chwarae yn Ysgol Dyffryn Ogwen pan oedd o’n athro yno. Y Prifathro oedd yn gwneud yr holi a Gwenlyn yn cael trafferth i esbonio rhai arwyddion a wnaed gan rai o’r plant efo’u dwylo. Pethau fel codi dau fys a rowlio bys ar ochr penglog.

Roedd hi’n glamp o stori ac y tynnu pawb i chwerthin. Hyd yn oed y rheiny fel fi oedd wedi ei chlywed lawer gwaith o’r blaen.

Dawn dweud

A beth am y saga arall honno am ei brofiad yn cael y "cyfweliad blynyddol" enwog efo un o Reolwyr ecsentrig y BBC yng Nghymru?

Erbyn diwedd y cyfweliad hwnnw ’doedd Gwenlyn ddim yn sicr pa un ai fo ei hun ai’r dyn tu ôl i’r ddesg oedd y ‘Controlar’ go iawn.

Ac eto’r stôr ddihysbydd yna o straeon gwreiddiol personol oedd yn ei wneud o’n gystal cwmnïwr - â’r dawn i’w dweud nhw wrth gwrs.

Nid rhyw lobstar gwirion

Roedd o’n gymeriad hefyd.
Nid rhyw lobstar gwirion o gymeriad chwaith, ond dyn efo gwaelod iddo. Roedd ganddo safbwynt. Ac nid ar chwarae bach y gellid ei berswadio i blygu.

Fe welais i enghreifftiau o hynny ar amrywiol achlysuron gyda’i Gymreictod a’i genedlaetholdeb yn bethau oedd yn gwbl sanctaidd yn ei olwg. A gwae i unrhyw un ohonom ddweud gair i gyfeiriad arall.

Mi fyddwn i weithiau yn mynd ati’n fwriadol i ddweud rhywbeth carlamus y gwyddwn na fyddai yn ei blesio. Fyddwn i ddim yn gallu parhau’n hir i dynnu ei goes. Fe gawn wybod fy mod wedi deud digon ac mai gwell oedd tewi.

Pan ddiflannodd y Ddraig

Weithiau fe âi yntau yn rhy bell. Mewn gwyl ffilmiau Celtaidd yn Donegal yr oeddan ni pan ddiflannodd baner y Ddraig Goch dros nos a gadael baneri eraill.

Roedd Gwenlyn yn benwan, ac er bod rhesymau gwleidyddol cadarn dros y digwyddiad oherwydd trafferthion Gogledd Iwerddon, eto fe ddaliodd ati i greu dadl. Roedd Cymru fach wedi cael ei sarhau a rhaid oedd cywiro pethau. A wir ichi rwy’n credu iddo gael ei faen i’r wal. Oedd, roedd William Gwenlyn Parry yn gymeriad cadarn iawn iawn.

Triw a charedig

Ond fel cyfaill triw a charedig y bydda i yn ei gofio fwyaf. Nid cyfaill tywydd braf yn unig oedd o. Rwy’n cofio unwaith bod yn ceisio am swydd efo fo. Roedd pedwar ohonom ar y rhestr fer. Rywsut, y fi gafodd y ‘job’ a phwy oedd y cynta i i godi ac ysgwyd llaw - wel Parry wrth gwrs. "Pob lwc iti rhen foi," medda fo. "Os galla i dy helpu di ryw dro dim ond gofyn cofia!"

Un hawdd ei frifo

Ac fe fu yna benodau yn hanes llawer iawn o rai eraill dros y blynyddoedd pan fu Gwenlyn yn gyfaill gwerth ei gael mewn cyfyngder.

Un felna oedd o – ac er bod ganddo ddiddordeb ysol ymhob stori a chlec oedd yn ffurfafen Cymru – eto i gyd, chlywais i ‘rioed mohono yn lledu gwybodaeth faleisus am neb.

A deud y gwir, chlywais i fawr o neb yn deud dim cas amdano yntau, A diolch am hynny, oherwydd roedd yna agwedd arall i Gwenlyn Parry – roedd o’n greadur hawdd iawn ei frifo.

Ac yn ystod y seiadau a gefais i efo fo yn ystod ei fisoedd olaf fe soniodd am rai o’r penodau a adawodd greithiau ar ei enaid clwyfus.

Ond fe gadwa i’r rheiny yng nghelloedd y cof a’i gofio fel cwmnïwr, cymeriad, cyfaill – a dramodydd wrth gwrs!

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

BBC
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy