bbc.co.uk
Home
Explore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwenlyn Parry

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Addysg
» Y Twr
Y Dramodydd
Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y Dramodydd

Ei gwys ei hun

Atgofion cynhyrchydd: George Owen

Cyn agor ei gwys ei hun ym myd y ddrama Gymraeg simsanodd Gwenlyn Parry rywfaint rhwng dau fath arall o ddrama yn ôl y cynhyrchydd, George Owen.

Dywedodd George Owen i Gwenlyn ymddiddori’n gynnar yn theatr y Kitchen Sink a darllen llawer ar weithiau dramodwyr fel John Osborne ac Arnold Wesker yn ogystal â gweithiau Pinter a Ionesco a dramodwyr eraill yr abswrd.

"Dwi’n meddwl," meddai George Owen, "iddo simsanu rhwng y ddau am gyfnod ond yn y diwedd fe agorodd ei gwys ei hun, cwys newydd yn hanes y ddrama Gymraeg."

Dywed mai ei gyfaill agos, Huw Lloyd Edwards, oedd yr agosa ato yn y Gymraeg.


"Yr oedd e’n bell iawn oddi wrth Saunders Lewis a John Gwilym Jones oedd yn ddramodwyr llawer mwy confensiynol."

Cydweithio’n bwysig

"Y fo oedd y cyntaf i ddod i mewn i uned sgriptiau newydd BBC Cymru ac ar ei ôl o fe ddaeth Meical Povey, Sion Eirian, Rhydderch Jones am gyfnod, T. James Jones, William Jones - yr oeddan nhw’n dylanwadu llawer iawn ar ei gilydd."

"Yr oedd cydweithio’n bwysig iddo fo ac yr oedd rhai o’i weithiau bron a bod yn gywaith, gyda’r ddrama deledu, Grand Slam, yn enghraifft arbennig o hynny."

Cadarnhaodd George Owen stori hefyd ynglyn â diweddglo Saer Doliau.

"Bu trafod mawr sut y dylai’r ddrama orffen ac yn y diwedd fe ddwedodd Gaynor Morgan Rees, ‘Pam na chanith y teliffon?’

"Flynyddoedd wedyn pan oeddwn i’n ail wneud y ddrama ar gyfer y teledu gofynnais iddo fo a hoffai o gael diweddglo arall i’r ddrama. Ac yntau wedi cael blynyddoedd i feddwl, gwrthod wnaeth o."

"Mi ês i cyn belled â recordio dau ddiweddglo ond roedd o’n bendant mai y teliffon yn canu oedd o eisiau. Er nad oedd o ddim yn gwybod pam ’chwaith."

Ychwanegodd:
"Fe gafodd o goblyn o sioc pan oeddan ni’n gwneud Ty ar y Tywod ar gyfer y teledu."

"Roedd yna fersiwn llwyfan ac un teledu, cast gwahanol, cynhyrchiadau hollol wahanol. Y fi gynhyrchodd yr ymdriniaeth deledu ac mi gês i benrhyddid ganddo fo."

"Mi ddaeth i lawr i Gaerdydd i weld y ffilmio a gweld yr adeg honno beth fedrai’r cyfrwng ei gyfrannu - ac mi ddotiodd at hynny."

"Rhyddid ar raff oedd hi gyda Gwenlyn - mi wnai o gyfaddawdu efo rhai pethau.

Stwff bara menyn

"Gweithio’n ysbeidiol oedd o ac weithiau mi fyddai’n cael trafferth efo ambell bennod. Y wyrth oedd iddo wneud cymaint ag yntau’n cynhyrchu cymaint o stwff "bara menyn" i’r teledu."

"Stwff "bara menyn" da iawn, fel Fo a Fe, Tresarn a Pobol y Cwm.

"Roedd o’n berson efo llawer iawn o syniadau - roedd gynno fo ffrindiau tua Chaernarfon, fel Gwilym Pritchard, oedd yn arbrofi efo cynhyrchiadau cyfoes iawn - "way-out" a dweud y gwir.

"Doedd llawer o’r syniadau yma ddim yn gweld golau dydd - gweld y gwaith gorffenedig oeddan ni."

Atgofion eraill:

Eich atgofion chi:

cofion y cyhoedd

BBC
© MMI

Y Twr

Y Dramodydd
Ei Fywyd
Ei Ddramâu
Atgofion Cyfeillion
Y Cyhoedd yn Cofio
Llais Llên

Y Cynhyrchiad
Astudio'r Ddrama

Rhaglenni 'Wythnos Gwenlyn Parry'



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy