Coron Brenin Enlli Tachwedd 2009 Mae arddangosfa arbennig yn adrodd hanes Ynys Enlli ac yn arddangos coron Brenin Enlli yn cael ei chynnal yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor.
Mae'n cyd-fynd â 30 blwyddiant sefydlu Ymddiriedolaeth Ynys Enlli Cyf yn 1979.
Tun yw gwneuthuriaid y goron ac mae'n cael ei chadw fel arfel yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl.
Bydd yr arddangosfa ymlaen tan fis Ebrill.
Mae'r Amgueddfa (sydd wrth yr arhosfan bws yng nghanol Bangor) ar agor o ddydd Mawrth hyd dydd Gwener o 12.30pm hyd 4.30pm. Mae mynediad am ddim.