Golffwyr o safon Gorffennaf 08 Y mis diwethaf roeddem yn llongyfarch George Stowe am gael ei enwebu fel Chwaraewr y Flwyddyn yng nghlwb Golff Aberdyfi.
Yn ystod y mis mae George wedi profi rhagor o lwyddiant.
Yng nghystadleuaeth chwaraewyr hŷn Cymru a gynhaliwyd ar gwrs Aberdyfi ar ddechrau'r mis daeth George yn ail.
Yna, gyda chymorth ei bartner ar y diwrnod, Mike Rogers, llwyddodd i ennill Pencampwriaeth Agored Chwaraewyr Hyn yng Nghonwy.