Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth
Disgyblion wedi casglu £242.00 dydd Iau trwy "Diwrnod Diwisg"
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth
I godi arian i Blant Mewn Angen eleni, cafwyd raffl; Aled Hopking yn 'waxio' ei gefn ac Adrian Morgan yn gwneud 'sponsered silence'.
"Casglwyd dros £400 yn Neuadd Pantycelyn rhwng cyfraniadau myfyrwyr UMCA a staff y Neuadd - diolch yn fawr i bawb!"
Stephen Hughes, Llywydd UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth 2005-06)
Ysgol Gynradd Cross Hands
Rydyn ni wedi codi £312.56 drwy gynnal marchnad yn yr ysgol oedd yn gwerthu tegannau, cardiau , losin, bwyd a diod. Fe ddaeth Pudsey i'n gweld am 11.00 o'r gloch. Cafodd pawb sioc pan aethon ni i gael cinio achos roedd y menywod cinio wedi gwisgo lan fel chwaraewyr y Sgarlets!
Y Parch Goronwy Evans a'i wraig Beti LLambed
Os ydych chi eisiau cyfrannu i gronfa Plant Mewn Angen yn Llambed yna ewch draw ar Ddiwrnod Plant Mewn Angen - Tachwedd 18, 2005 rhwng 9 a 6 i siop esgidiau V and M yn y dre.
Bydd Parch Goronwy Evans a’i wraig Beti sydd yn gweithio yn galed bob blwyddyn i godi arian i Plant Mewn Angen yn disgwyl am eich cyfraniad.
Allwch chi gysylltu ar 01570 422 587.
Y llynedd fe wnaeth Llambed godi dros £31 o filoedd o bunnoedd i Blant Mewn Angen. Dros y blynyddoedd mae Llambed wedi codi dros wyth cant a hanner o filoedd o bunnoedd.