Crwydro Fyddwch chi'n mynd i gerdded neu grwydro yn eich ardal weithiau? Os felly, lle ydy eich hoff le i fynd am dro?
Clive I fyny'r allt i ben Moel Famau. Mynydd uchaf bryniau Clwyd, ac uchafbwynt y gogledd ddwyrain. Golygfeydd godidog - ar ddiwrnod braf.
Rhian Angharad Davies o'r Wyddgrug Moel Fama - golygfeydd anhygoel o'r ardal ar ddiwrnod clir Loggerheads - hwyl gyda'r plant, gellir mynd i badlo yn yr afon.
Iwan Williams o Langwm, Corwen. I ben mynydd y Foel Goch, sydd uwchben Llangwm.
John o Fagillt Does dim byd gwell gen i ar fore Dydd Sul na mynd i grwydro gyda fy nghar hyd Cwningar Talacre "Y Diwns" neu fynd i lawr i'r Cob ym Magillt a cherdded wrth lanau'r Ddyfrdwy heb enaid arall i'w weld am hydoedd.
Lowri Jones Cyffylliog I barc Rhuthun oherwydd fy mod yn cael chwarae yn y parc.
John Ireland o Rhosllannerchrugog Llangollen, i ben bryn castell Dinas Bran, castell neis a golygfeydd anhygoel, wedyn lawr i'r dre am beint!
Julie Hawatson Broster o Ddinbych Dwi`n hoff iawn o drafeilio a gwario amser yn yr trefi mawr. Bron bob mis `dwi lawr yn Llundain neu Manceinion - ond bob tro dwi`n cyrraedd adref, yn sylwi pa mor ffodus ydy bod yn Gymraes a byw mewn lle mor hardd!!
Julie Hawatson Broster o Ddinbych O amgylch waliau`r castell a lawr trwy'r caeau tu ol i ysgol Howells. Y plant wrth eu boddau yn cerdded i fyny stad Colomendy ac edrych ar yr tractors Coch!! Ddim hanner mor olygfaol.
Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.