|
Sefydlwyd Ysgol Glan Clwyd yn 1956 ar safle Ysgol Gynradd Emaniwel, Y Rhyl a 94 o ddisgyblion gyda Haydn Thomas y Prifathro cyntaf.
Ond, wrth i'r ysgol dyfu, symudodd yr ysgol i'w safle bresennol yn Llanelwy ar safle hen Ysgol Ramadeg Llanelwy yn 1969.
Cododd nifer y disgyblion i 1,300 cyn agor Ysgol y Creuddyn yng ngorllewin y dalgylch ac ar un cyfnod 'roedd ein blynyddoedd iau yn derbyn eu haddysg yng Ngwersyll Cinmel ym Modelwyddan.
Erbyn hyn mae 850 o ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd a'r dalgylch yn ymestyn i ardaloedd Y Rhyl, Prestatyn, Dinbych, Dyffryn Clwyd a rhannau o Gonwy a Sir y Fflint.
"Mae'n bwysig nodi ein bod yn dathlu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn fwy na phen-blwydd yr ysgol yn unig," meddai'r Pennaeth presennol Meurig Rees.
"Er bod nifer o aduniadau answyddogol yn cael eu trefnu byddwn ni'n cael diwrnod agored i gyn ddisgyblion a charedigion yr ysgol fel y bydd cyfle i ymlwybro drwy'r adeiladau a hel atgofion."
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu i ddathlu hanner canrif o addysg uwchradd Gymraeg.
Hefyd, mae'r ysgol yn cysylltu â chyn ddisgyblion yn gofyn iddyn nhw ffilmio neges ar gyfer llyfr lloffion gweledol.
Bydd rheswm arall i ddathlu yn ystod y flwyddyn - adeiladau newydd yn cael eu hagor, gan gynnwys bloc gwyddoniaeth.
 |