Pêl-droediwr i dimau Wrecsam, Manchester United a Chymru.
Mae Mickey Thomas yn un o griw o bêl-droedwyr talentog a ddaeth o'r gogledd orllewin yn ystod yr wythdegau.
Cafodd wahoddiad i ymuno â thîm pêl-droed Wrecsam pan oedd yn 15 oed gyda'i ffrind Joey Jones.
Daeth yn un o chwarewyr enwocaf Wrecsam ac yn 37 oed, fe sgoriodd y gôl fuddugol i Wrecsam pan guron nhw Arsenal yng nghwpan yr FA yn Ionawr 1992.
Er ei fod yn cael ei gysylltu â Wrecsam, mae'n dod o ogledd orllewin Cymru yn wreiddiol ac felly mae bywgraffiad llawn ohono yn Oriel Enwogion y gogledd orllewin.