Hanes cath dew

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Last updated: 12 October 2010

Hanes Guto Siôn, cath o Lanberis, sydd wedi tyfu'n rhy dew

Geirfa

  • anifeiliaid anwes
  • cyw iâr
  • medru symud
  • sbriws
  • prydau bwyd
  • llusgo

Gwrando a deall

  1. Beth yw enw cath Mair Ffowcs?
  2. Beth sy'n bod ar y gath?
  3. Pa enwau sydd gan y pentrefwyr arno?
  4. Pryd mae e'n bwyta cyw iâr?
  5. Beth arall mae e'n ei fwyta yn ystod y dydd?
  6. Sut mae e'n symud?
  7. Ble mae'r gath yn hoffi mynd?
  8. Sut rydyn ni'n gwybod ei fod yn fawr?

Iaith

a) Beth yw'r enw gwrywaidd / benywaidd cyfatebol?:

Gwrywaidd Benywaidd
cath cwrcyn/gwrcath
ci
llewes
caseg
mochyn
iâr
clacwydd
buwch

b) Dywedir am y gath ei bod 'yn bwyta fel ceffyl benthyg'. Pa rai, yn eich barn chi, sy'n cyfateb?

  • Yn yfed fel paun
  • Yn rhegi fel mochyn
  • Yn siarad fel lladd nadroedd
  • Yn rhochian fel pwll y môr
  • Yn gweithio fel ych

c) Mae ystyr rhai geiriau yn amrywio yn y de a'r gogledd. Enghraifft o hyn yw pan yw Jonsi yn dweud "Brwnt, 'te?'. Ystyr 'brwnt' yma yw 'creulon / cas'. Yn y de, yr ystyr yw 'aflan'. Ceisiwch weld beth yw gwahanol ystyron y geiriau hyn:

  • allt
  • diniwed
  • llofft
  • blin

Tafodaith

Mae'r ddau siaradwr o Wynedd. Faint o ôl tafodiaith sydd ar eu sgwrs o ran:

  • geirfa
  • terfyniadau geiriau
  • ymadroddion
  • tonyddiaeth?

Ystyriwch y sgwrs o dan y penawdau hyn.

Trafod

  1. Anifeiliaid anwes - mantais neu rwystr? Trafodwch.
  2. Cymharwch gathod a chðn fel anifeiliaid anwes.

Ymadroddion

  • bwyta fel ceffyl benthyg
  • yn ôl y sôn.

Pan nad yw Mair Ffowcs yn gallu cofio gair, mae hi'n defnyddio 'pethma' (thingamy). Y gair yn y de yw 'bechingalw'. Maen nhw hefyd yn cyfleu 'whatsit' a 'whatyoucall'!

Ysgrifennu

  • Portread o anifail anwes.
  • Anifeiliaid mewn chwedlau, ffilmiau neu nofelau.
  • Mae anifeiliaid anwes yn cael gormod o sylw. Trafodwch.

Trawsgrifiad

Roedd anifeiliaid anwes yn obese ac un felly 'di cath Mair Ffowcs o Lanberis, Guto Siôn. Yn ôl bob sôn, mae'r hen Guto Siôn yn byta fatha ceffyl benthyg a mae pentrefwyr hen bentra bach Llanbêr yn ei alw'n "Fat Cat" - brwnt hefyd 'te?

I frecwast de, mae'n cael sachet pysgod te - w'ch chi'r sachets bach 'na, un o'r rheina. Wedyn, cyw iâr i ginio. Fydda i'n gneud saith iddo fo'n barod . . . o beth 'na a wedyn fyddan nhw'n cymyd un bob dydd a wedyn crunchies i de a bwyd arbennig gan y vet, SD, i swpar.

Mae'n byta'n well na chi Mair?

(chwerthin) . . . yndi . . .

Ydi o'n medru symud rywfaint?

O yndi, tad, mae o reit sbriws. Mae o'n gallu symud yn dda iawn.

Symud at ei bowlan fwyd, ia?

Na, dydio ddim mor gymaint â hynny. Na, mae o reit . . mae'n mynd allan. Mae'n mynd hyd y caeau 'ma a betha felly.

'Da chi am roi llai o bryda bwyd iddo fo?

Wel dw i ofn bydd raid i mi. Mae'i fol o'n llusgo hyd lawr bron. . (chwerthin)... fel mae hi a mae pawb yn alw fo yn famma yn - Sais yn alw o'n Fat Cat, rywun arall yn alw fo'n Black Panther a rywun arall ddoe ar y BBC 'di alw fo'n Big Black Cat.

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.