Penawdau'r newyddion

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Last updated: 11 October 2010

Cyhoeddwr yn rhestru penawdau'r newyddion

Geirfa

  • Ymchwil
  • awgrymu
  • gwneud drygau
  • gwaethaf
  • euog
  • cyfaddef
  • llofruddio
  • Llys y Goron
  • cipio
  • treisio
  • cynlluniau
  • pryderon
  • gwyliadwriaeth
  • carcharor

Gwrando a deall

Gwir neu anwir?

  1. Mae pobl ifainc Prydain gyda'r gorau yn Ewrob.
  2. Roedd y baban a laddwyd yn fis oed.
  3. Cafodd merch ei chipio yn Wrecsam.
  4. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw un awgrymu ehangu'r marina.
  5. Mae cynghorwyr Dinbych am geisio gwella bwyd ysgol.
  6. Roedd sôn am gael carcharor trwy'r post!

Iaith

a) Gwrandewch ar y penawdau eto a chwblhewch y brawddegau hyn:

  • Ieuenctid Prydain ydy'r .......... yn Ewrob.
  • Mam ifanc o Abertawe yn euog o .......... marwolaeth ei babi.
  • Dyn wedi ei gyhuddo o gipio a .......... merch ifanc yn Wrecsam.
  • Cynlluniau ar y .......... i ddatblygu marina Pwllheli.
  • Cynghorwyr yn gofyn am arian i wneud yn siwr y bydd .......... ar gael yn y sir.
  • Byddwch ar eich .......... rhag ofn y cewch chi garcharor yn y post!

b) Diffiniwch yn eich geiriau eich un:

  • ymchwil
  • carcharor
  • llofruddio
  • awgrymu
  • Llys y Goron
  • cipio

c) Ailysgrifennwch y brawddegau hyn gan ddefnyddio ffurf gryno amhersonol y ferf:

  • Cafodd lleidr ei ddal / Daliwyd y lleidr
  • Bydd y ffair yn cael ei hagor gan y Maer /
  • Cafodd y bachgen ei garcharu /
  • Mae'r cyngerdd yn cael ei threfnu gan Gyngor y Dref /
  • Cafodd y baban ei ladd gan ei fam /
  • Roedd Cymraeg yn cael ei siarad yno unwaith /
  • Bydd y tŷ'n cael ei werthu yfory /
  • Roedd dillad yn cael eu gwerthu yno flynyddoedd yn ôl /
  • Mae Dewi'n cymryd y brif ran yn y ddrama /

Tafodaith

Beth yn eich barn chi yw prif nodweddion iaith bwletin newyddion? Pa bynciau sy'n ymddangos yn gyson?

Trafod

  1. Lluniwch benawdau'r newyddion yng Nghymru / Prydain yr wythnos hon a thrafodwch rai ohonynt yn y grŵp.
  2. Lluniwch rai o benawdau'r byd eleni / y llynedd a'u trafod yn yr un modd.
  3. Trafodwch yr eitemau sydd yn y newyddion yn eich ardal ar y pryd.

Ymadroddion

Byddwch ar eich gwyliadwriaeth!

Ysgrifennu

  1. Lluniwch un eitem lawn o newyddion gyfredol.
  2. Ar y cyd, lluniwch fwletin o eitemau newyddion y dosbarth - pen-blwyddi; ymweliadau, absenolion, afiechyd etc.
  3. Lluniwch fwletin newyddion ar gyfer 2100.

Trawsgrifiad

Diolch Geraint. Noswaith dda. Yn y newyddion heno mae rhai pobol ifanc yn meddwl ei bod hi'n cŵl i gael ASBO. Dyna mae gwaith ymchwil newydd yn ei awgrymu. A dydy petha'n gwella dim i fobol ifanc - heno mae adroddiad arall yn deud mai ieuenctid Prydain ydy'r gwaetha yn Ewrop am neud dryga. Hefyd ar y newyddion, mam ifanc o Abertawe yn euog o ganiatáu marwolaeth ei babi blwydd oed fuodd i'w chyn gariad eisoes wedi cyfadde ei lofruddio. Dyn o flaen Llys y Goron, Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o gipio a threisio merch ifanc yn Wrecsam bron i bythefnos yn ôl. Cynllunia ar y gweill i ddatblygu Marina Pwllheli bron i flwyddyn a hanner ers i gynllunia erill gael eu gwrthod oherwydd pryderon lleol. Cynghorwyr Dinbych yn gofyn am fwy o arian i wneud yn siwr y bydd prydau bwyd ysgol ar gael yn y sir yn y dyfodol. A byddwch ar eich gwyliadwraeth rhag ofn y cewch chi garcharor yn y post! Gewch chi wbod mwy am naw, a dyna chi benawdau'r newyddion - arhoswch efo ni ar C2.

Noder

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.


Gwefannau Dysgu Cymraeg

Big Welsh Challenge

Cwrs Cymraeg rhyngweithiol arlein mewn fformat opera sebon sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.

Catchphrase

Ystod eang o adnoddau ar gyfer pob lefel o ddysgu Cymraeg.

Colin & Cumberland

Delfrydol ar gyfer dechreuwyr pur yr iaith Gymraeg.

Ieithgi

Rhugl yn y Gymraeg? Rho gynnig ar her gloywi iaith Ieithgi!

Pigion Radio Cymru

Podlediad o uchafbwyntiau wythnosol ar gyfer dysgwyr Cymraeg.

RAW Cymru

Llwyth o gemau geiriau i wella dy sgiliau darllen ac ysgrifennu.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.