Y Ddamwain

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Atgofion o ddamwain beic - dyma beth a achosodd yr atal dweud?

Ceir cyfweliad â Martin lle mae'n sôn am sut cafodd ddamwain. Pan oedd e tua 5 mlwydd oed, roedd e allan ar y beic. Mae'n cofio ei fod yn pedlo i fyny rhiw a'i fod wedi troi ar y top er mwyn mynd yn ôl am adre. Mae'n cofio ei fod yn mynd yn gyflym iawn a'i fod wedi gwasgu'r brêc. Y peth nesaf mae e'n ei gofio yw hedfan oddi ar y beic. Mae e'n cofio hyn yn iawn, ac yn cofio bod yn yr ysbyty. Wedyn, tua hanner blwyddyn ar ôl hynny, datblygodd ei atal dweud.
O: O'r Galon - Martin Thomas
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mawrth 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Cyfathrebu, Twf a Datblygiad Dynol, Deall Afiechydon,Clefydau ac Anhwylderau Cyffredin

Allweddeiriau : Atal dweud, Cwrs McGuire, Anadlu costal, Rhaglen McGuire, Therapi, Therapydd iaith

Nodiadau : •Mae Therapydd Iaith a Lleferydd yn rhoi cymorth i blant sydd ag atal dweud. Ymchwiliwch i mewn i rôl y therapydd a'r broses a ddefnyddir i asesu'r plentyn. •Bydd rhai pobl sydd ag atal dweud yn osgoi rhai geiriau neu sefyllfaoedd y maen nhw'n gwybod fydd yn achosi problem iddyn nhw. Trafodwch sut y gall atal dweud effeithio ar fywyd unigolyn. •Trafodwch y ffactorau sy'n effeithio ar gyfathrebu effeithiol? Pa rai sydd fwyaf amlwg wrth ystyried achos Martin?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.