Byw mewn Lle Oer: Hela yn Gynaliadwy

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Dulliau hynafol yr Inuit o hela i oroesi yn yr Arctig.

Dilynwn yr Inuit yng ngogledd Grønland wrth iddyn nhw hela un o fwydydd mwyaf gwerthfawr yr Arctig - math prin o forfil sy'n cael ei alw'n Narwhal neu Morfil Ungorn. Mae hi'n ganol haf ac mae'r haul yn tywynnu am 24 awr y dydd. Ymunwn â thri dyn, Kristiansen, Mikele a Gedion, ar eu helfa flynyddol. Rhaid iddyn nhw fyw allan ar y rhew môr tra eu bod yn aros am y Narwhal. Mae eu dull o hela yn draddodiadol iawn, wedi'i drosglwyddo iddyn nhw gan eu hynafiaid - maen nhw'n defnyddio harpŵn wedi'i wneud â llaw ac yn teithio mewn caiacau pren.
O: Human Planet Arctic: Life in the Deep Freeze
Darlledwyd yn gyntaf : 27 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 7-9,9-11

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Ardal gyferbyniol, Adnoddau cynaliadwy

Allweddeiriau : Y Byd Ehangach, Dŵr, Canada, Pegwn y Gogledd, Narwhal, Morfil ungorn

Nodiadau : Cyn gwylio'r clip gofynnwch i'r disgyblion osod datganiadau ar ddiagram Venn yn ôl eu barn a yw gwahanol arferion yn gynaliadwy ai peidio. Cyflwynwch y cysyniad o newid hinsawdd, gan ofyn i'r disgyblion nodi ar label yr hyn maen nhw'n ei gredu ydyw, a'i osod ar y wal. Ar ôl gwylio'r clip, eu gwahodd i newid eu diffiniad neu ychwanegu ato. Gofynnwch i'r disgyblion greu map meddwl o'r hyn mae Pegwn y Gogledd yn enwog amdano, yn eu barn nhw. Ar ôl gwylio'r clip, gofyn i'r disgyblion ymchwilio i sut mae cael dim digon o fitamin c yn effeithio ar y corff dynol.Ymchwiliad gwyddoniaeth - beth yw ecosystem? Beth sy'n digwydd i ecosystem os ydych chi'n tynnu rhan ohoni oddi yna?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.