Byw heb Ddŵr: Darganfod Dŵr trwy Ddefnyddio Technoleg Hynafol

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Ffordd o ddod o hyd i ddŵr yn y diffeithdir.

Yn Algeria mae cymunedau cyfan yn gallu byw yn y diffeithdir erbyn hyn oherwydd bod y bobl yn mabwysiadu dulliau hynafol i ddod o hyd i ddŵr o dan y ddaear a'i sianelu yn ôl i'r dref. Mae Kerzaz yn dref gwerddon sy'n ddwfn yn y diffeithdir ac sy'n dibynnu ar y cyflenwad yma o ddŵr daear - dŵr sydd wedi'i ddal yn y graig o dan y diffeithdir. Yn sgil y dŵr daear, gall anifeiliaid a phobl oroesi yn y fath amgylchedd sych.
O: Human Planet Deserts - Life in the Furnace
Darlledwyd yn gyntaf : 20 Ionawr 2011

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 7-9,9-11

Pwnc : Daearyddiaeth

Testun : Ardal gyferbyniol, Materion amgylcheddol, Adnoddau cynaliadwy, Cyflenwi dŵr

Allweddeiriau : Dŵr, Amgylchedd, Pentrefi, Y Byd Ehangach, Diffeithdir Sahara

Nodiadau : Cyn gwylio'r clip gofynnwch i'r disgyblion ddod o hyd i leoliad Algeria ar fap. Cynhaliwch her ddeg munud i weld pwy all ddarganfod y ffaith fwyaf diddorol ynglŷn â Diffeithdir Sahara trwy ddefnyddio llyfrau a/neu'r we. Ar ôl gwylio'r clip gallai'r disgyblion lunio graffiau llinell i ddangos y gwahaniaeth rhwng y tymereddau/glawiad misol cyfartalog yn Kerzaz a Chymru. Cychwynnwch drafodaeth dosbarth ar sut gall ffydd ysgogi pobl, gan ofyn i'r disgyblion ystyried pobl eraill sy'n dweud bod eu ffydd wedi eu hysgogi i gyflawni pethau. Disgyblion i greu eu model eu hunain o dref gwerddon.Trafodwch y cysyniad o adeiladu wrth raddfa.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.