Mwslimiaid yng Nghymru

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Ali Yassine yn mynegi barn am ddelweddau negyddol y cyfryngau o Islam

Profiadau dau Fwslim yn cael eu magu yng Nghymru. Ali Yassine yn dechrau gan sôn am agwedd y cyfryngau at Fwslimiaid, yna'n egluro sut mae'n ceisio magu ei deulu fel Mwslimiaid a Chymry Cymraeg. Yna merch ifanc, Nadia, yn sôn am ei bywyd fel Mwslim ifanc yng Nghaerdydd
O: Taro Naw - Mwslemiaid
Darlledwyd yn gyntaf : 5 Hydref 2004

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Cymdeithaseg

Testun : Cymuned a ddiwylliant

Allweddeiriau : Cyfryngau, Delwedd negyddol, Rhagfarn, Diwylliant, Crefydd, Hunaniaeth, Hunaniaeth ddeuol, Cymdeithasoli, Grŵp ethnig lleiafrifol,

Nodiadau : PYNCIAU TRAFOD. • Ar ddechrau'r clip mae Ali yn sôn am agwedd y cyfryngau. Beth yw eich profiad chi o weld gwahanol ddiwylliannau yn cael eu portreadu ar y cyfryngau? Sut byddai portread negyddol yn gwneud i chi deimlo? • Ydy'r portreadau o fywyd Ali a'i blant a Nadine yn wahanol i'r stereoteip arferol o Fwslimiaid ym Mhrydain? • Pa fath o broblemau mae'r bobl ifanc hyn yn gallu wynebu yn y dyfodol wrth geisio cyfuno 2 ddiwylliant? • Trafodwch agweddau ar eich hunaniaeth chi yng Nghymru heddiw. GWAITH ESTYNEDIG • Edrychwch ar erthyglau papur newydd. Sut mae grwpiau ethnig lleiafrifol yn cael eu portreadu yn eich ardal chi neu'n genedlaethol? • Darganfyddwch 2 enghraifft o ymchwil sy'n astudio profiad pobl ifanc o gefndir ethnig lleiafrifol o gael eu magu ym Mhrydain. Beth yw casgliadau'r ymchwil? ADOLYGU • Diffiniwch a rhowch enghreifftiau o'r termau canlynol: hunaniaeth, hunaniaeth ddeuol grŵp ethnig lleiafrifol. • Nodwch ac esboniwch 2 enghraifft o sut mae unrhyw ddau gyfrwng cymdeithasoli yn effeithio ar hunaniaeth. • Mae oed, dosbarth a rhywedd hefyd yn effeithio ar hunaniaeth. Nodwch ac eglurwch effaith posib pob un o'r rhain.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.