Dw'i Isho Bod yn Enwog!
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Mae'r dosbarth yn cael dasg o wneud fideo - Monica'n troi'n dipyn o ddifa.
Dim ond pan fo Monica'n gweld Mandy heb ei dillad crand a'i cholur y mae hi'n sylweddoli nad ydy enwogrwydd mor hawdd ag y mae'n ymddangos. Esbonia Mandy fod ei swydd yn ymwneud â gweithio fel rhan o dîm a gweithio'n galed, ac efallai y byddai'n well gan Monica wneud rhywbeth mae hi wir yn ei fwynhau - fel cerddoriaeth!
Gan sylweddoli ei chamgymeriad, mae Monica yn ymddiheuro i'w ffrindiau. Yn y cyfamser mae gweddill y grŵp yn gwylio'r fideo ac yn sylweddoli ei fod yn drychinebus. Awgryma Monica eu bod yn troi'r hyn maen nhw wedi ei ffilmio i mewn i fideo cerddoriaeth. Gydag ychydig o help gan ei ffrindiau a thrwy wneud beth mae hi wrth ei bodd yn ei wneud, mae hi'n llwyddo i achub y dydd.
Nodiadau Dysgu
Ystod Oedran : 9-11,11-14
Pwnc : ABCh
Testun : Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Perthnasau
Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Tyfu i fyny,Cyfeillgarwch,Enwogrwydd,Seleb,Glasoed
Nodiadau :
Gallai'r stori hon gael ei defnyddio i sbarduno trafodaeth am gyfeillgarwch a sut i'w reoli, yn arbennig os ydy'r cyfeillgarwch yn un anodd ar brydiau. Gallai'r stori ysgogi trafodaeth am enwogrwydd, 'llwyddiant dros nos' a'r pwysau sy'n gysylltiedig â hyn. Gallai hefyd sbarduno trafodaethau ar ganfyddiad (perception), a beth rydyn ni'n ei feddwl am bobl sydd yn llygad y cyhoedd.
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.
Ysgolion Cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitif i deimladau pobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch a chydberthnasau eraill
• rheoli gwahanol emosiynau a datblygu strategaethau ar gyfer datrys gwrthdaro
• uniaethu â phrofiadau a theimladau pobl eraill
a deall:
• y manteision o gael ffrindiau, a'r problemau sy'n gallu codi
• sefyllfaoedd sy'n esgor ar wrthdaro
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill er mwyn dod i gytundeb
Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.
Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.
Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:
• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• ffurfio a chynnal cyfeillgarwch, a dechrau trafod ymddygiad mewn cydberthnasau personol
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• datblygu a defnyddio ystod o strategaethau i reoli dicter a datrys gwrthdaro
a deall:
• y manteision o gael mynediad i wahanol ffynonellau o wybodaeth, cymorth a chyngor.
2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill
Blwyddyn 7
Gwrando
• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.
Blwyddyn 8
Gwrando
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol.
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.
Blwyddyn 9
Gwrando
• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.
Chwilio Clipiau Dysgu
Archif Eclips
Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.
