Ra-ra ra-ra - Bra!

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Lara yn gorfod prynu ei bra gyntaf ond mae gormod o ddewis yn y siop!

Wrth redeg yn ras gyfnewid yr ysgol, mae bronnau Lara (12) yn dechrau teimlo'n boenus am y tro cyntaf. Mewn embaras, dydy hi ddim am ddweud wrth unrhyw un. Yn ffodus, mae Akira (12) yn sylweddoli ei bod yn hen bryd i Lara brynu ei bra cyntaf. Mae'r profiad yn ei drysu - nid yn unig dod o hyd i'r siop iawn, ond hefyd mae cymaint o wahanol fras i ddewis rhyngddyn nhw; bras crys-T, bras chwaraeon, bras patrymog. Diolch i'r drefn, mae Lara yn cael help gan ei ffrindiau. Ond yn anffodus, er bod dod o hyd i fra chwaraeon da yn gallu stopio bronnau Lara rhag brifo, sylweddola Lara a'i ffrindiau na wnaiff hyn ei helpu i ennill y ras gyfnewid!
O: Ask Lara - ail-leiswyd i'r Gymraeg
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mai 2012

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 9-11,11-14

Pwnc : ABCh

Testun : Iechyd a Lles Emosiynol, Datblygiad Moesol ac Ysbrydol, Cadw'n Iach

Allweddeiriau : Tri chwestiwn i Lara, Glasoed, Poenau tyfu, Bronnau, Bra cyntaf

Nodiadau :

Gellir defnyddio'r stori hon i sbarduno trafodaeth ar ddatblygiadau corfforol yn ystod glasoed. Y nod ydy apelio at grŵp mor eang â phosibl. Mae'r stori hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer asesu faint yn union mae dosbarth cymysg o fechgyn a merched yn ei wybod am yr agwedd gorfforol ar dyfu i fyny. Mae'r olygfa lle mae'r bechgyn yn siarad am ferched yn gwisgo bras hefyd yn un arbennig o ddefnyddiol wrth ystyried agweddau a pharch. Caiff yr agweddau emosiynol ar dyfu i fyny flaenoriaeth dros y rhai corfforol. Caiff y gair ''bŵbs' ei ddefnyddio sawl gwaith pan fydd y marched yn disgrifio'r newidiadau ar'r sefyllfa.


Cysylltiadau â'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru

Mae deunyddiau Tri Chwestiwn i Lara yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall y newidiadau sy'n digwydd i'w cyrff yn ystod glasoed, sut i reoli eu teimladau a sut i gael perthnasau diogel, cyfrifol ac iach. Gellir galluogi'r dysgwyr hefyd i archwilio'u teimladau, datblygu hunanymwybyddiaeth a hunan-barch, a datblygu eu hunan-dyb.


Ysgolion cynradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 2:
• deimlo'n bositif amdanynt eu hunain a bod yn sensitive i deimladau pobl eraill.
• gwerthfawrogi ffrindiau fel ffynhonnell o gymorth i'w gilydd
• datblygu parch atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• Uniaethu â phroiadau a theimladau pobl eraill
• gofyn am gymorth a chyngor personol
a deall:
• y rhesymau dros y newidiadau corfforol ac emosiynol sy'n digwydd yn ystod glasoed
• ystod eu teimladau a'u hemosiynau eu hunain a theimladau ac emosiynau pobl eraill

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 5 a 6 ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu. Yn enwedig i:
• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill a rhannu syniadau a safbwyntiau personol

Blwyddyn 5 (9-10 oed)
Gwrando
• Gwrando'n astud ar gyflwyniadau drwy ddefnyddio technegau i gofio'r prif bwyntiau, e.e. gwneud nodiadau, crynhoi.
• Gwrando ar eraill, gofyn cwestiynau ac ymateb i'r cynnwys a safbwyntiau'r siaradwr.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu at drafodaeth grŵp, gan gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros gyflawni'r dasg yn dda, e.e. cyflwyno syniadau perthnasol, crynhoi.
• Ychwanegu at a datblygu syniadau pobl eraill mewn trafodaethau grŵp, e.e. drwy holi cwestiynau i archwilio ymhellach, cynnig syniadau ychwanegol.

Blwyddyn 6 (10-11 oed)
Gwrando
• Gwrando'n ofalus ar gyflwyniadau gan ddangos dealltwriaeth o gasgliadau neu farn y siaradwyr.
• Ymateb i eraill gyda chwestiynau a sylwadau sy'n ffocysu ar resymau, goblygiadau a chamau nesaf.
Cydweithio a thrafod
• Cyfrannu'n bwrpasol at drafodaeth grŵp i sicrhau'r canlyniadau y cytunwyd arnynt.
• Dilyn i fyny pwyntiau o drafodaeth grŵp, gan ddangos cytundeb neu anghytundeb a rhoi rhesymau.

Ysgolion Uwchradd
1. Addysg Bersonol a Chymdeithasol
Mae'r bennod hon yn rhoi cyfleoedd i'r dysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 3:

• ddatblygu agweddau cadarnhaol atynt hwy eu hunain ac at bobl eraill
• uniaethu â phrofiadau, teimladau a gweithredoedd pobl eraill
• cael mynediad i ystod briodol o ffynonnellau er mwyn cael cymorth cefnogaeth a chyngor
a deall:
• yr ystod o emosiynau y maent yn eu profi a sut i ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdopi â theimladau negyddol.

2. Llythrennedd
Mae'r bennod hon yn rhoi'r cyfleoedd i'r dysgwyr ym Mlwyddyn 7, 8 a 9 ddatblygu eu sgiliau llafar. Yn enwedig i:

• wrando ac ymateb i safbwyntiau a syniadau pobl eraill
• cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau
• trafod safbwyntiau/syniadau pobl eraill

Blwyddyn 7
Gwrando

• Ymateb yn bwyllog i syniadau pobl eraill gan ofyn cwestiynau cymwys.
• Gwrando ar esboniadau o brosesau, dilyniant neu safbwyntiau a nodi'r prif bwyntiau yn eu trefn.
Cydweithio a thrafod
• Gwneud amrywiaeth o gyfraniadau at drafodaethau, e.e. arwain, annog a chefnogi eraill.

Blwyddyn 8
Gwrando

• Gwrando ar wybodaeth a syniadau (ar sgrîn neu'n fyw) a nodi sut mae tystiolaeth yn cael ei defnyddio, e.e. i amddiffyn barn, neu ei chamddefnyddio, e.e. i gamarwain drwy orddweud.
• Ymateb yn bositif ac ystyrlon i syniadau newydd a safbwyntiau gwahanol..
Cydweithio a thrafod
• Trafod safbwyntiau cyferbyniol, a thrafod y ffyrdd ymlaen.

Blwyddyn 9
Gwrando

• Ystyried perthnasedd ac arwyddocâd gwybodaeth a syniadau a gyflwynwyd iddynt.
• Gwrando ar wybodaeth a syniadau ac adnabod y modd y maent yn cael eu cyflwyno i hybu safbwynt penodol.
Cydweithio a thrafod
• Ymgymryd ag ystod o rolau mewn trafodaeth grŵp gan gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu barn.

Gweler Addysg Rhyw am ragor o wybodaeth.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.