
 |
 |
Diwedd
cyfnod - dechrau cyfnod
Wrth ddirwyn rhywbeth i ben, dymunaf fendithion hael ar gyfer
ein dyfodol |
Sylwadau wythnosol Aled Edwards
Mehefin 25, 2006
Dechrau Cyfnod
Daw'r darn olaf hwn a chyfnod i ben.
Ar ôl ysgrifennu pytiau wythnosol am gyfnod o chwe blynedd, daeth
yr amser i ddirwyn y gyfres Wythnos o Feddwl i'w therfyn.
Y mae hynny'n ddealladwy ac yn briodol.
Rhywbeth sy'n peri llawenydd mawr i mi yw gweld sut y mae cornel darpariaeth
grefyddol BBC Cymru'r Byd wedi ymestyn i gynnwys sgyrsiau Dweud
Eich Dweud a sawl cyfraniad arall gan ystod eang o gyfeillion
sydd â phethau gwerthfawr i'w ddweud.
Croesawaf yn fawr yr ymestyn a fu.
Er hyn, fe fyddaf yn colli'r ddisgyblaeth wythnosol o ysgrifennu'r
myfyrdodau bychain hyn. Diolchaf hefyd am gwmni ambell ddarllenwr
cyson.
Diolch am y cwmni.
Gwaith cyfaill
Ar ffurf gwasanaeth cyhoeddus, daeth cyfnod arall i ben yr wythnos
hon.
Cafwyd cyfle nos Wener diwethaf i ddathlu gweinidogaeth allweddol
bwysig y Parchedig Gethin Abraham-Williams yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.
I mi, bu Gethin yn gyfaill ac yn gydweithiwr agos. Byddaf yn colli
ei lywio gofalus yn ogystal â'i gyfeillgarwch cyson.
Dros y misoedd nesaf hyn fe fydd Gethin yn ymddeol ar ôl blynyddoedd
o wasanaeth neilltuol o ffyddlon i'r broses eciwmenaidd Gymreig.
Yn fwyaf penodol yn ddiweddar, bu'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Cyffredinol
CYTUN, sef Eglwysi Ynghyd Yng Nghymru.
Cydnabod dyled
Y mae dyled sawl un sydd am weld eglwysi yn gweithio a'i gilydd yng
nghwmni cyfeillion o gredoau eraill yn fawr i Gethin.
Yn
sgil datganoli, gwelodd Gethin yn dda i ddarparu modd i ddwyn cymunedau
ffydd Cymru at ei gilydd trwy gyfrwng Fforwm Aml Ffydd y Cynulliad
Cenedlaethol.
Ef hefyd fu'n bennaf gyfrifol am osod perthynas yr eglwysi a'r Cynulliad
yng nghanol bywyd cyffredin yr eglwysi.
Yn fwy na dim, gallwn ddiolch i Gethin am ei waith da o gynnal fflam
eciwmenaidd ynghyn yng Nghymru mewn cyfnod anodd yn hanes y gymuned
Gristnogol Gymreig.
Gweddïaf ar i Dduw ganiatáu iddo ymddeoliad hir a bendithiol.
Llythyr annisgwyl
Wrth ddirwyn ambell beth i ben, agorodd pennod bersonol cwbl annisgwyl
yn fy hanes. Felly y mae pethau'n gweithio o dan ras Duw. Daw penderfyniadau
anodd weithiau i ran yr unigolyn yn sgil gwahoddiadau.
Pum wythnos yn ôl cyrhaeddodd llythyr cwbl annisgwyl ein ty ni yng
Nghilfynydd.
Ar flaen yr amlen, cafwyd cyfeiriad trawiadol 10 Downing Street.
Heb yn wybod i mi, roedd cyfeillion agos ymysg ffoaduriaid Cymru,
rhai o'n lleiafrifoedd ethnig ac ambell gyfaill o fyd aml ffydd Cymru
wedi fy enwebu ar gyfer anrhydedd.
O dderbyn y llythyr arbennig hwn roedd rhaid penderfynu yn gyflym
os oeddwn am ei dderbyn ai peidio.
Gallaf ddeall a gwerthfawrogi safiad egwyddorol y Cymry da hynny a
wrthododd dderbyn anrhydeddau o'r fath: gallaf ddeall a gwerthfawrogi
safiad egwyddorol y Cymry da hynny a dderbyniodd anrhydeddau o'r fath.
Beth oeddwn i'w wneud?
Yr hyn sy'n aros
Fe benderfynais yn union syth o'r bron y byddwn yn derbyn yr hyn a
gafodd ei gynnig gyda'r un haelioni a'r brwdfrydedd y cafodd ei gynnig.
Yr oedd rhan ffoaduriaid Cymru yn y cynnig hwnnw yn golygu llawer
i mi.
Efallai taw teg yw galw pobl sy'n derbyn pethau o'r fath i ryw fath
o gyfrif cyhoeddus. Mater cyhoeddus wedi'r cwbl yw anrhydedd cyhoeddus.
Yn fy ymateb i'r cyfan fe ddysgais rywbeth newydd amdanaf fi fy hun.
Fe ddysgais hefyd am bobl eraill yn eu hymateb nhw i'r newyddion.
Beth bynnag, nid wyf am boeni'n fawr am gael fy nghreu yn swyddog
o ymerodraeth nad yw bellach yn bod.
Yr hyn sy'n aros i mi heddiw, fel Cristion cenedlaetholgar Cymreig,
yw'r dyheu personol am Gymru ddatganoledig gyfoes fel gwlad lle y
mae pobl yn dod at ei gilydd a lle nad oes neb yn cael ei adael ar
ôl.
Diolchaf am y fraint anhygoel o gael hel meddyliau o gwmpas y pethau
cysegredig hyn yng nghymdeithas Cymru'r Byd dros gyfnod o chwe mlynedd.
Wrth ddirwyn rhywbeth i ben, dymunaf fendithion hael ar gyfer ein
dyfodol. Dyfodol dwi'n mawr obeithio fydd yn gynyddol well.
Dymunwn ddiolch i Aled Edwards am ei gyfraniadau wythnosol
ers cychwyn BBC Cymru'r Byd. Rydym yn falch o ddweud y bydd yn parhau
i gyfrannu'n achlysurol i'n gwefan newydd, Crefydd
Cymru.
Gwefan Aled Edwards
Gwefan Crefydd Cymru
I ddarllen detholiad o Sgyrsiau
Dweud ei Ddweud, Post Cyntaf
Cliciwch
Bwrw Golwg
Ebostiwch ymateb
|
 |

  |
 |
 |
 |
|
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd
yn ei le. |
 |
|
|
|