bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
» Straeon
Wythnos o Feddwl
Meddygol
Llythyrau
Miss Jones

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Gari Nicolas - cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod  Llanelli Cartref gwyrdd
y Steddfod

Edrych ymlaen at Wyl
dwy fil yn Llanelli

Dydd Iau, Mehefin 22, 2000
Parc arfordir y mileniwm fydd cartre Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a’r Cylch ym mis Awst. Llecyn ar lan moryd y Burry sy’n gyfleus i dre a thraeth a’r bwriad yw defnyddio’r safle ar ôl y Brifwyl ar gyfer gwyliau eraill.

Mae’r maes wedi ei rannu’n dair ardal ar wahan a bydd rhwydwaith o lwybrau tarmac yn cysylltu’r cyfan. Y gobaith yw y bydd yn help i sicrhau y bydd Steddfod Llanelli yn steddfod heb fwd!

Un atyniad newydd sbon fydd amphitheatr ar ffurf grisiau mawr yng nghanol y maes. Bydd hwn yn ganolfan ac atyniad newydd i’r Brifwyl … ac yn llwyfan trawiadol ar gyfer perfformiadau neu arddangosfeydd awyr agored.

Tua milltir i’r gorllewin o’r maes bydd y maes carafanau ar lecyn sydd wedi ei harddu ac yn mwynhau golygfeydd dros y foryd. Bydd modd teithio o’r maes carafanau i bentre Porth Tywyn a Pharc Gwledig Penbre a hyd rhwydwaith o lwybrau beicio a llwybrau troed.

Cafodd y rhain i gyd eu hagor yn ddiweddar fel rhan o gynllun uchelgeisiol Parc Arfordirol y Mileniwm. I deithio i’r maes bydd bws wennol.

O son am deithio mae’n bosib disgrifio Steddfod Llanelli fel y steddfod werdd gyntaf. Mae’r holl drefniadau parcio a thrafnidiaeth yn amlygu gwyrddni'r wy gyda phwyslais ar drafnidiaeth gyhoeddus a beiciau.

Ond os ydych yn teithio yn y car bydd lle i wyth mil o geir ar faes parcio Machynys. Munudau fydd hi wedyn ar y bws o’r meysydd parcio i’r maes. Bydd digon o gerbydau a cherbydau wedi’u haddasu ar gyfer ymelwyr anabl.

Mae’r gwaith ar y gweill ers blynyddoedd i sicrhau y bydd yr wyl yn un i’w chofio. Bydd steddfodwyr a chefnogwyr y Brifwyl yn Llanelli wrthi fel lladd nadroedd yn yr wythnosau sy’n dod i sicrhau mai Steddfod 2000 yn Nhre’r Sosban fydd yr orau eto!

Garry Owen

 
Wythnosau Blaenorol:


Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Chwiliwch
Cyfoes
Cofio gof gwlad
Atgofion am gyfnod sydd wedi darfod yng nghefn gwlad Cymru

John RobertsAr drywydd John Roberts
Dyn sy'n dipyn o sant


Straeon a lluniau o Eisteddfod Eryri 2005


Cofio Gwenynen Gwent
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer

Wythnos o Feddwl
Y Parchedig Aled Edwards yn rhoi'r byd yn ei le.
Wythnos o Feddwl



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy