Ar ôl curo Llanelli o 2-0, mae'r pencampwyr, Y Seintiau Newydd, wedi dringo i frig yr Uwchgynghrair - yn mynd ar y blaen i Fangor yn y tabl ar wahaniaeth goliau.
Daeth dwy gôl y Seintiau o fewn yr hanner awr gyntaf. Daeth y gôl gyntaf, pan wyrodd Chris Thomas y bêl i'w rwyd ei hun, ar ôl 17 munud, cyn i Craig Jones ddyblu'r fantais ar ôl hanner awr.
Efo pum gêm yn weddill, mae'r Seintiau a Bangor ar 61 pwynt - ond, mae gwahaniaeth goliau'r Seintiau yn +51, sydd 14 yn well na Bangor.