Arian i Khan
29 Awst 2004
Llwyddodd y gŵr o Cuba, Mario Kindelan, i amddiffyn ei goron Olympaidd wrth drechu Amir Khan o Brydain 30-22 yn rownd derfynol y pwysau ysgafn.
Llwyddodd Khan, oedd yn ceisio bod y bocsiwr ieuengaf ers Floyd Patterson ym 1952 i ennill aur, i ennill y rownd gyntaf 4-3.
Ond gan ddefnyddio ei brofiad llwyddodd Kindelan, Pencampwr y Byd ar dair achlysur, i ddefnyddio ei brofiad enfawr ac agor bwlch rhwng y ddau focsiwr ag ail rownd wych.
Ac er i Khan orffen yr ornest yn gryf, roedd y gŵr o Cuba wedi gwneud digon i sicrhau ei fod yn ymddeol o'r gamp â'r fedal aur.
"Ef yw'r bocsiwr gorau rwyf wedi weld mewn amser maith," meddai Khan am ei wrthwynebydd