Pryder dros obaith Calzaghe o herio Lacy
12 Medi 2005
Mae pryder mawr dros obeithion Joe Calzaghe o sicrhau gornest â Jeff Lacy wedi iddo dorri asgwrn yn ei law chwith yn erbyn Evans Ashira.
Methodd y Cymro â defnyddio ei law chwith o'r pedwerydd rownd ymlaen yng Nghaerdydd nos Sadwrn, ond roedd yn dal i fod yn rhy dda i'w wrthwynebydd o Kenya.
Cadarnhawyd ofnau Calzaghe ddydd Sul wedi sgan peledr-X ddangos ei fod wedi torri asgwrn metacarpal.
Bydd y bocsiwr 33-mlwydd-oed mewn plaster am fis ac allan o'r sgwâr focsio hyd at 2006.
Roedd yr ornest ag Ashira i fod yn ornest baratoadol ar gyfer yr ornest â'r pencampwr IBF, Lacy, ar 5 Tachwedd.
Dywedodd hyrwyddwr Lacy, Gary Shaw, oedd wedi beirniadu Calzaghe am gymryd yr ornest ag Ashira yn y lle cyntaf: "Dywedwch wrth Frank Warren nad yw ef a Joe Calzaghe yn rheoli adran 12-stôn bellach.
"Os yw (Warren) o ddifrif am ornest ym mis Chwefror yna fe ddylai ddod â Calzaghe i America gan mai dyna'r unig ffordd bydd yn gweld Jeff Lacy eto.
"Nid oes gennyf unrhyw ddiddordeb gwastraffu fy amser â Joe Calzaghe bellach," meddai Shaw wrth www.secondsout.com.
Ond ymatebodd Warren yn chwyrn gan fynnu bod gan Calzaghe berffaith hawl i herio Ashira gan fod Lacy wedi mynnu herio Robin Reid o Fanceinion fis diwethaf.
Dywedodd Warren: "Roeddem eisiau herio Lacy yn gynt ond mynnodd ei dîm ei fod yn herio Reid gyntaf.
"Roedd Joe angen ambell i rown yn y sgwâr ac mae'r hyn sydd wedi digwydd yn rhwystredig - nid oes unrhyw un yn fwy rhwystredig na Joe ei hun.
"Mae Gary Shaw a Jeff Lacy yn hurt i feddwl mai Lacy yw'r prif focsiwr yn yr adran.