Main content

Sul y Cofio - pel-droed a rhyfel

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

 

A’r drothwy Sul y Cofio, hwyrach mai priodol ydi imi gyfeirio at ddwy stori o’r byd pêl droed sy’n gysylltiedig â rhyfeloedd. Ychydig ohonom sydd yn ymwybodol fod Abertawe ac wedi creu hanes yng Nghwpan Lloegr yn 1915.

 

‘Roedd y tymor pêl droed eisoes wedi cychwyn, gan mai’r gred oedd mai rhyw ryfel a fyddai’n gorffen yn fuan oedd hon am fod! 

 

Wrth gwrs nid felly y bu. 

 

Er bod llawer yn ystyried y gêm fel rhywbeth i gadw sylw'r cyhoedd oddi wrth y rhyfel,  newidiwyd y ddelwedd wrth i filoedd ar filoedd o deuluoedd sylweddoli nad oedd eu hanwyliaid am ddychwelyd o’r ffosydd a’r brwydro. 

 

Yn erbyn y cefndir yma o ddadrithiad, daeth llawer o bobol i ystyried peldroedwyr nad aeth i ryfel fel llwfrgwn ac mae'r agwedd a’r cefndir yma wedi cael effaith fawr ar anhysbysrwydd y stori am lwyddiant cynnar Abertawe. 

 

Ar y nawfed o Ionawr 1915, wynebodd Abertawe, a gafodd eu ffurfio fel clwb yn 1912, gewri a phencampwyr yr Adran Gyntaf, Blackburn Rovers yng Nghwpan Lloegr ar gae'r Vetch.

 

Tîm yn ail adran cynghrair De Lloegr oedd Abertawe, a doedd neb yn rhoi unrhyw obaith i Abertawe. 

 

Aeth Blackburn ati yn llawn egni i ymosod, ac yna, yn dilyn anaf i Harry Read, aeth Abertawe i lawr i ddeg dyn, cyn i Blackburn wastraffu cyfle euraidd i fynd ar y blaen gyda chic o’r smotyn yn yr ail hanner.

 

Roedd Billy Bradshaw wedi sgorio tri deg chwech o giciau o'r smotyn o'r bron cyn wynebu Abertawe, ond yn y gêm yma, fe lwyddodd i wneud dim gwell na llithro’r bel heibio’r postyn.

 

Ymatebodd deg dyn yr Elyrch gydag awch ac egni newydd gan achub y blaen wrth i’r blaenwr ifanc un ar bymtheg oed, Benny Beynon sgorio unig gôl y gêm, yn dilyn pas gan Amos Lloyd. 

 

Er waethaf y rhyfel, roedd un fil ar bymtheg ar y Vetch, ac yn dathlu buddugoliaeth annisgwyl wrth  weld Abertawe yn creu hanes a fyddai yn agor y drws ar gyfer mwy o ganlyniadau annisgwyl y dyfodol.

 

Doedd Beynon ond yn chwarae i Abertawe gan nad oedd gem rygbi ar gael iddo gyda’r tîm rygbi lleol oherwydd bod Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu na fyddai unrhyw gêm yn cael ei chynnal oherwydd y rhyfel.

 

 Yn 1918, aeth Beynon yn ôl i chwarae rygbi gydag Abertawe gan ennill dau gap dros Gymru, ond gan ei fod wedi chwarae pêl droed  i Abertawe roedd Undeb Rygbi Cymru yn ei ystyried fel chwaraewr proffesiynol.

 

Oherwydd hyn, doedd dim lle iddo ym myd rygbi’r undeb, ac fe aeth ymlaen i chwarae rygbi’r gynghrair gydag Oldham am weddill ei yrfa. 

 

Un o brif gymeriadau'r gêm ar drothwy’r Rhyfel Mawr oedd Leigh Richmond Roose. Brodor o bentref Holt, gerllaw Wrecsam a mab i weinidog yr eglwys Bresbyteraidd sef Richmond Leigh Roose, a oedd yn enedigol o Sir Fôn.

 

Mae’r Athro Geraint Jenkins, yn ei lyfr ‘Cewri Bel Droed yng Nghymru’ wedi cynnwys pennod am gyfraniad Roose , a chwaraeodd i Aberystwyth, y Derwyddon, Everton, Aston Villa, Stoke City, Sunderland, Arsenal yn ogystal â Chymru rhwng 1901 a 1912.

 

Yn wir, ymddengys fod cariad Roose tuag at Aberystwyth lle chwaraeodd 56 o gemau, wedi parhau drwy ei yrfa, gyda’r golwr yn gwisgo crys gwyrdd a du Aber o dan ei grys cenedlaethol wrth gynrychioli ei wlad.

 

Chwaraewr amatur oedd Roose, sydd yn esbonio pam y mae wedi ymuno a chymaint o dimau mewn gyrfa fer, yn barod i gynnig ei hun am dreuliau da i bwy bynnag a oedd am roi gêm iddo!   

 

Ysgolhaig oedd Roose, wedi dilyn cwrs meddygaeth ym mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd ei ymddangosiad yng nghanol timau o lafurwyr a dynion ifanc anllythrennog yn rhywbeth annaturiol iawn yr adeg hynny!

 

Roedd gol geidwaid yn nyddiau cynnar y gêm yn swydd a oedd yn cael ei ystyried fel rhywbeth hollol hurt, o gofio natur ffisegol a brwnt y gêm!

 

Ond, ysgol haig neu ddim, llwyddodd Roose i ennill Cwpan Cymru gydag Aberystwyth yn 1900, wrth guro’r Derwyddon yn y Drenewydd o dair gôl i ddim, cyn mynd ymlaen i chwarae gyda thimau blaenllaw Lloegr fel amatur, gan dderbyn treuliau swmpus, a oedd bron cymaint â'r hyn a dderbyniai'r chwaraewyr proffesiynol

 

Mae stori am i Roose, yn dilyn cais gan y Gynghrair Bel Droed i’w glwb Sunderland egluro sut yr oeddynt yn cyfarfod a threuliau'r golwr amaturaidd, gychwyn ei dderbynneb trwy nodi: - “Defnyddio’r tŷ bach ddwywaith - dwy geiniog”!

 

Ar adeg arall wedi iddo fethu'r trên a oedd i’w gludo o Lundain i chwarae dros Stoke City yn erbyn Aston Villa, fe lwyddodd i ddwyn perswâd ar awdurdodau'r rheilffyrdd i roi trên arbennig iddo’i hun ( rhywbeth a oedd yn arferol ar gyfer yr enwog a’r cyfoethog yr adeg honno).

 

Dylanwadodd y Cymro ar reolau’r gêm hefyd. Yr arfer, ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ydoedd i’r golwyr aros o gwmpas ceg y gôl, er y gallant grwydro gyda’r bel yn eu dwylo, yn hollol gyfreithiol, allan o’r cwrt cosbi, a’i chicio i ben pella’r cae gan greu hafoc yng ngheg y gol. A dyna oedd tacteg Roose.

 

Oherwydd hyn, newidiodd y Gymdeithas Bel Droed, yn 1912 reol rhif naw, gan gyfyngu defnydd y golwr o’i ddwylo, i derfynau'r cwrt cosbi, fel ag yr adnabyddwn heddiw. 

 

Yn 1914, ymunodd Roose a byddin y Royal Fusiliers, ac ar brynhawn Sadwrn, y seithfed o Hydref, 1916, am chwarter i ddau, ymosodwyd ar yr Almaenwyr ym Mrwydr y Somme. 

 

Collodd Leigh Richmond Roose ei fywyd mewn cae yn Ffrainc, ar yr union ddydd ac amser pan oedd yn arfer creu gwyrthiau ar gaeau pêl droed Cymru a Lloegr.

Blog comments will be available here in future. Find out more.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Dyfarnwr Rhyngwladol Fifa - Iwan Arwel