Etholiad Cyffredinol 1945
Galwyd etholiad ar gyfer 5 Gorffennaf 1945. Daeth y pleidleisio i ben ar 19 Gorffennaf er mwyn rhoi cyfle i filwyr o dramor gael pleidleisio. Y ddwy brif blaid oedd Plaid Lafur Clement Atlee a Cheidwadwyr Winston Churchill. Erbyn hyn roedd y Blaid Ryddfrydol yn gwanio.
Roedd y canlyniad yn syndod i nifer o bobl. Roedd Winston Churchill yn arweinydd llwyddiannus adeg y rhyfel ac yn arwr. Yn amlwg, roedd nifer o’r arsyllwyr wedi tybio y byddai Churchill yn fuddugol oherwydd ei rôl yn ystod y rhyfel a’i boblogrwydd. Ond, cafodd Llafur fuddugoliaeth ysgubol.

Rhesymau dros fuddugoliaeth etholiadol 1945
Efallai fod pobl Prydain yn dymuno gweld cyfnod o newid a’u bod yn credu y byddai’r Blaid Lafur yn cynnig gobaith ar ôl Dirwasgiad y 1930au. Roedd y Ceidwadwyr wedi tanamcanu’r teimlad yma. Er cymaint oedd poblogrwydd Churchill, roedd y Blaid Geidwadol yn cael anhawster denu cefnogwyr newydd.
Roedd ymgyrch y Ceidwadwyr wedi canolbwyntio ar rôl Churchill yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'n bosib dadlau bod hyn wedi eu gwneud nhw'n llai apelgar i bleidleiswyr oedd yn dymuno symud ymlaen ar ôl y rhyfel. Oherwydd mai hon oedd yr etholiad gyntaf ers 1935, roedd nifer anarferol o uchel o bobl yn pleidleisio am y tro cyntaf. Nid oedd y slogan Help him finish the 'job'
yn gwneud fawr ddim i leddfu pryderon pleidleiswyr.
Roedd yna hyder y byddai Llafur yn sicrhau newid gwleidyddol ac economaidd. Drwy addo cofleidio a gweithredu ar Adroddiad BeveridgeAdroddiad gan y llywodraeth a gyflwynwyd gan Syr William Beveridge i senedd Prydain yn Nhachwedd 1942, a arweiniodd at sefydlu system o nawdd cymdeithasol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar ôl y rhyfel. roedden nhw’n gallu ennill pleidleiswyr.
Roedd Llafur yn elwa o’r newid agwedd tuag at y system dosbarthiadau cymdeithasol a symudedd cymdeithasol oedd wedi ymddangos o ganlyniad i chwalu traddodiadau yn ystod y rhyfel, yn ogystal â chred gynyddol mewn cyfleoedd i bawb.
Roedd llawer yn beio’r Blaid Geidwadol am y Dirwasgiad diweddar ac am fethu â gwrthwynebu Adolf Hitler yn ystod dyhuddiadIldio i ofynion gwlad arall er mwyn osgoi rhyfel. y 1930au. Roedd ymgyrch y Blaid Lafur yn canolbwyntio ar y materion a’r gwendidau hyn.
Hefyd, gwnaeth Churchill y camgymeriad o gymharu sosialaeth Llafur ag unbenaethau gormesol, a chyfeiriodd hyd yn oed at y GestapoHeddlu cudd y Natsïaid..
Defnyddiodd y Daily Express, oedd yn cefnogi’r Ceidwadwyr, y pennawd ‘GESTAPO IN BRITAIN IF SOCIALISTS WIN’ ac roedd hynny’n codi braw ar nifer o bleidleiswyr.
Roedd Atlee yn deall y dyhead am newid ym Mhrydain, ac adlewyrchir hynny yn y slogan Let us face the future together
. Fe wnaeth Llafur ddenu pleidleiswyr drwy addo creu gwladwriaeth lesGwladwriaeth (neu wlad) lle mae'r llywodraeth yn darparu budd-daliadau lles fel addysg, gofal iechyd a thaliadau diweithdra i'w phoblogaeth am ddim o’u defnyddio, er ei fod yn cael ei dalu gan drethi cyffredinol. yn seiliedig ar Adroddiad Beveridge, ac addo gwladoli Banc Lloegr, glo, pŵer, trafnidiaeth a’r diwydiannau haearn a dur yn syth.
