Bomio dinasoedd Prydain: Abertawe, Belfast a Glasgow
Cyn y rhyfel, gwnaeth y llywodraeth baratoi dinasyddion ar gyfer ymosodiadau o’r awyr. Er bod pobl wedi derbyn mygydau nwy, ni chafodd nwy ei ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd pobl yn cael eu hannog adeiladu llochesi Anderson yn eu gerddi, ac roedden nhw’n hollbwysig yn ystod bomiau annisgwyl. Mewn dinasoedd, defnyddiodd pobl ffyrdd gwahanol o gadw’n ddiogel – er enghraifft, aeth pobl yn Llundain i’r gorsafoedd tanddaearol, tra bod pobl yng Nghaerdydd wedi defnyddio seleri’r castell.
Gwnaeth y Luftwaffe gynnal yr ymosodiadau bomio o’r awyr, sef y ‘Blitz’, rhwng Medi 1940 a Mai 1941. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd dros 43,500 o ddinasyddion eu lladd ledled Prydain.
Roedd propaganda’r rhyfel a’r papurau newydd yn amlygu’r syniad o “ysbryd y Blitz”. Roedd hyn yn gwneud i bobl edrych yn ddewr, yn unedig ac yn benderfynol, hyd yn oed yn ystod cyfnodau o fomio trwm.

Llundain
- Llundain oedd un o’r prif dargedau a chafodd y ddinas ei bomio’n ddi-stop rhwng Medi 1940 a dechrau’r flwyddyn 1941.
- Cafodd dros 30,000 eu lladd yn Llundain yn ystod y Blitz, a gwnaeth miloedd o bobl golli eu cartrefi.
- Cafodd adeiladau enwog megis Eglwys Gadeiriol St Paul a Phalas Buckingham eu difrodi yn ystod y bomio.
Abertawe
- Cafodd Abertawe ei fomio dros sawl noson yn Chwefror 1941.
- Roedd y bomiau’n targedu’r porthladd, y dociau a’r diwydiannau cyfagos, a oedd yn bwysig i ymdrech y rhyfel.
- Cafodd dros 200 o bobl eu lladd neu eu hanafu, a dinistrwyd rhannau mawr o ganol y dref.
Belfast
- Cafodd Belfast ei bomio’n drwm sawl gwaith yn ystod gwanwyn 1941.
- Ymosodwyd ar dargedau diwydiannol megis iardiau llongau, a chafodd ardaloedd lle roedd nifer o dai, eu heffeithio’n wael hefyd.
- Gwnaeth y Blitz ladd bron i 1,000 o ddinasyddion, ac roedd llawer yn ddigartref yn dilyn y bomiau.
Glasgow
- Roedd Glasgow a’r ardal gyfagos, Clydeside, yn dargedau diwydianol pwysig oherwydd y ffatrïoedd a gan fod llongau’n cael eu hadeiladu yno.
- Gwnaeth yr ymosodiadau bomio achosi llawer o ddifrod i weithleoedd a chartrefi.
- Roedd tua 50,000 yn byw yn nhref Clydebank, sef ardal ddiwydiannol yn Clydeside, ac roedd 35,000 yn ddigartref o galyniad i’r Blitz.
Coventry
- Cafodd ymosodiad dinistriol ei gynnal ar Coventry yn Tachwedd 1940.
- Gwnaeth ffrwydron ffyrnig a bomiau ffrwydrol ddifrodi canol y ddinas yn wael.
- Cafodd dros 500 o bobl eu lladd a dros 800 eu hanafu, ac roedd rhan fawr o’r ddinas yn adfeilion o ganlyniad.
Dinasoedd eraill
Cafodd sawl dinas arall ym Mhrydain eu bombio, gan gynnwys Birmingham, Bryste, Caerdydd, Lerpwl a Manceinion. Nod yr ymosodiadau hyn oedd tarfu ar rwydweithiau trafnidiaeth a diwydiannau, yn ogystal â lleihau morâl ledled y wlad.
