Y metelau trosiannol
Y metelau trosiannol yw’r elfennau yn rhan ganol y tabl cyfnodol.
Mae’r metelau trosiannol yn rhannu’r priodweddau canlynol.
- Maen nhw’n ffurfio cyfansoddion lliw.
- Maen nhw’n dargludo gwres a thrydan yn dda.
- Maen nhw’n hydrin, hynny yw hawdd eu morthwylio neu eu plygu i mewn i siâp.
- Maen nhw’n llai adweithiol na’r metelau alcali, fel sodiwm.
- Mae ganddyn nhw ymdoddbwyntiau uchel – ond mae mercwri yn hylif ar dymheredd ystafell.
- Maen nhw fel arfer yn galed a gwydn.
- Fel arfer, mae ganddyn nhw ddwysedd uchel.
- Maen nhw’n gallu ffurfio ïonau â gwahanol wefrau. Er enghraifft, mae haearn yn gallu colli dau electron i ffurfio ïonau Fe2+ neu mae’n gallu colli tri electron i ffurfio ïonau Fe3+. Enghraifft arall yw Cu+ a Cu2+.