Tai Unnos gan Iwan LlwydDadansoddi'r gerdd

Mae'r gerdd hon yn archwilio’r broblem oesol o ddigartrefedd. Gan edrych ar y gorffennol a’r presennol mae’n amlinellu difrifoldeb y sefyllfa.

Part of Llenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Dadansoddi'r gerdd

Ddoe

Beth yw tai unnos?

Ganrifoedd yn ôl, roedd yn arferiad yng Nghymru i adael i bâr ifanc tlawd a oedd newydd briodi i adeiladu cartref iddynt eu hunain ar , ond roedd yn rhaid cwblhau’r adeiladu “rhwng a gwawr.” Byddai’r pentref cyfan yn cynorthwyo’r pâr ifanc â’r gwaith. Yn ôl yr hanes, roedd yn rhaid dechrau adeiladu’r tŷ pan fyddai’r haul yn machlud yn y nos a phetai mwg yn dod o simnai’r tŷ erbyn i’r haul wawrio'r bore canlynol, ni fyddai hawl gan y landlordiaid i dynnu’r tŷ i lawr a byddai modd i’r pâr hawlio perchnogaeth ar y darn o dir. Tai syml oedd y rhain, wedi’u hadeiladu â cherrig, pridd a .

Mae dwy ran amlwg i Tai Unnos – sôn am y gorffennol mae’r rhan gyntaf ac mae’r ail ran yn sôn am y presennol.

Hanes traddodiad y tŷ unnos sy’n llunio rhan gyntaf y gerdd lle mae’r bardd yn cyfeirio at waith caled ‘ein cyndeidiau’ wrth:

hawlio darn o dir a’i godi’n aelwyd, / drwy nerth bôn braich, troi llafur yn freuddwyd.

Mae’r bardd yn dechrau trwy siarad am y gorffennol er mwyn tynnu sylw at gymaint sydd wedi newid erbyn heddiw ar un olwg. Un newid mawr rhwng ddoe a heddiw yw’r ffaith mai o fyd natur yr oedd deunydd tai ein cyndeidiau yn dod, hynny yw sbwriel oes yr iâ.

Darlun i arddangos y gymhariaeth rhwng yr hen draddodiad o adeiladu tŷ 'unnos' i sicrhau darn o dir i gwpl sydd newydd briodi, a'r bobl ddigartref sy'n gorfod adeiladu 'tŷ' ar gyfer eu hunain bob nos.

Heddiw

Mae ail hanner y gerdd yn sôn am godi ‘tai’ hefyd, ond mae’r rhain yn dai tra gwahanol. Maen nhw'n dai sy’n llythrennol yn cael eu gwneud â sbwriel. Nid yw’n rhamanteiddio’r gorffennol; dweud am yr hyn sy’n digwydd heddiw y mae.

Gwelwn pa mor anodd yw hi ar bobl ddigartref a pha mor yw eu hamgylchiadau. Maen nhw’n codi eu tai gyda bocsys ar lannau traffyrdd, mewn dinasoedd llwydion a meysydd parcio.

Person digartref yn cysgu mewn bocs cardfwrdd