500 o wisgoedd yr Orsedd i'w smwddio cyn y Steddfod

Gwisgoedd y Ddawns Flodau, a'r gwisgoedd gwyrdd, glas a gwyn
- Cyhoeddwyd
Eisteddfod y Garreg Las fydd Eisteddfod gyntaf Rhinedd Williams fel Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd.
Ond wrth gwrs, mae hi wrthi ers misoedd lawer yn paratoi'r holl wisgoedd ar gyfer y seremonïau, a diolch byth, mae ganddi ambell i ffrind sydd yn dda gyda'r haearn smwddio sy'n ei helpu, fel mae'n egluro yma:

Rhinedd Williams - sy'n cael ei hadnabod fel Rhinedd Mair yn yr Orsedd - yw Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
Trefnu a thrwsio
Dwi'n gyfrifol am holl wisgoedd yr Orsedd a'r regalia hefyd - y tlysau a'r pethau chi'n gweld, popeth sydd ar y llwyfan gyda'r Orsedd yn y seremonïau.
Yn syth wedi'r Eisteddfod diwetha' bydd y gwisgoedd, ychydig dros 500, yn mynd i'w glanhau.
Wedi iddynt ddychwelyd i'r stordy yn Llanybydder ymhen rhai wythnosau, byddaf i a'r tîm yn mynd i'w hail-osod yn nhrefn meintiau, fesul lliw'r wisg, a watsio bod pob llinyn a phob botwm dal yn ei le.

Mae un o ffrindiau Rhinedd, Rhiannon ar dîm y gwisgoedd, ac wedi bod yn rhoi help llaw gyda nodwydd ac edau
Wedyn, unwaith mae'r achlysur nesaf - naill ai'r cyhoeddi neu'r Eisteddfod - yn agosáu, a bod ni wedi cael y rhestr o bobl sydd yn bwriadu bod yn yr Orsedd, rydyn ni'n tagio'r dillad wedyn.
Mae yna wisg benodol o ran maint i'r unigolyn sydd wedi talu ac wedi gwneud cais am wisg.

Mae angen digon o drefn er mwyn i bawb gael y wisg gywir!
Mae angen addasu tipyn o'r dillad, yn dibynnu pwy yw'r unigolyn sydd wedi cael ei benodi i'r swydd, er enghraifft, cyflwynydd y Corn Hir Las a'r Flodeged; mae yna berson newydd, wrth gwrs, pob Eisteddfod.
Felly mae angen addasu gwisgoedd ar gyfer y nifer o'r rheiny.
Yr un peth gyda dawnswyr y blodau; mae gyda ni 20 o ferched newydd eleni, o feintiau hollol wahanol. Felly, dw i 'di bod wrthi yn gwella'n sgilie gwnïo i, i addasu'r dillad ar eu cyfer nhw. Mae hwnna wedi bod yn dipyn o her eleni.
Llafur cariad
Dwi'n agosáu at oed ymddeol ac roedd ymgeisio am y swydd yn rhyw fath o baratoi i lenwi'r bwlch erbyn daw'r amser.
Mae'r gwaith yn mynd â fi i ardaloedd gwahanol a newydd ar hyd y wlad a thu hwnt, ac mae'n braf cael cyfarfod â phobl wahanol yn sgîl eu cyfrifoldebau yn yr Orsedd, o Eisteddfod i Eisteddfod.
Drwy hyn, dwi wedi gwneud cysylltiadau newydd a ffrindiau newydd, ac mae hynny'n braf. Mae fy nghyd-aelodau yn yr Orsedd hefyd wedi bod yn arbennig o gefnogol ac mae'n braf cael cydweithio gyda hwy oll bob amser.
Wrth gwrs, swydd wirfoddol yw hi. Does neb o'r Orsedd yn cael eu cyflogi; mae'r cyfrifoldebau i gyd yn llafur cariad ac mae'n bwysig bod pobl yn sylweddoli hynny.

Shân yn twtio gwisg yr Archdderwydd
Dwi'n gorfod trwsio, addasu, gwnïo a threfnu dillad o'r newydd.
Cefais fy magu ar aelwyd lle'r oedd pobl yn galw'n gyson i drwsio'u dillad neu gael dillad o'r newydd.
Roedd Mami yn wniyddes arbennig yn gwneud dillad ar gyfer priodasau, carnifalau, sioeau a chorau lleol, ac i fi mae llawer o debygrwydd wrth baratoi gwisgoedd yr Orsedd.
"Mae lot o smwddio wedi gallu cael ei wneud. Ond, bydd 'na dal smwddio. Mae wastad angen smwddio..."
Rhinedd Williams yn siarad ar raglen Heledd Cynwal ar BBC Radio Cymru
Roedd cysgodi Ela (Cerrigellgwm, a ymddeolodd o'r rôl) y llynedd yn werth y byd; roedd hi'n hynod o garedig a chlir ei chyfarwyddiadau. Ond roedd cyfle i fi fwynhau'r profiad hefyd; un droed i mewn ac un allan.
Ers hynny dwi wedi cael cyfle i barhau ac adeiladu ar yr arferion.
Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous wrth baratoi, pwyso a mesur ffurf wahanol o wneud rhai pethau ac ymweld â'r stordy sawl gwaith.
Mae gen i berthynas dda gyda gweddill y tîm a gyda staff yr Eisteddfod. Mae pawb wedi bod mor garedig a chroesawgar yn gyffredinol a dwi'n mwynhau'r cydweithio a thrafod.

Heather yn rhoi trefn ar y penwisgoedd glas
Help llaw
Alli di ddim 'neud e heb bod ti'n cael yr help, achos mae yna gymaint o wisgoedd.
Mae yna 450 o wisgoedd gorsedd, sef y gwyn a'r glas a'r gwyrdd, ry' ni'n gyfarwydd â nhw, ond mae 'na ryw 60 o wisgoedd ychwanegol, y prif wisgoedd - gwisg yr Archdderwydd ac yn y blaen.

Mae mwy o wisgoedd na dim ond y rhai gwyn, gwyrdd a glas
Mae Geraint, y gŵr, 'di bod yn arbennig ac yn cludo fi nôl a 'mlaen i Lanybydder, ac wedyn, wrth gwrs, mae Shân, fy chwaer, ond hefyd tair ffrind, Ceirios, Heather a Rhiannon. Dyna'r tîm parhaol.
Wrth gwrs, yn y Garreg Las, dw i'n ffodus iawn achos bod fi'n dod o'r ardal, mae gen i lot o gysylltiadau ac wedi gallu dod â thîm o'r ardal at ei gilydd hefyd; pobl dwi wedi cydweithio gyda nhw yn y gorffennol, rhai yn berthnasau a phobl o'n i'n gwybod bydden ni'n gallu cydweithio gyda nhw.
Felly mae 'na dîm lawr fan'na hefyd yn barod i fynd amdani.
Mae lot o smwddio wedi gallu cael ei wneud yn Llanybydder. Ond, bydd 'na dal smwddio. Mae wastad angen smwddio...

Ceirios yn smwddio - bydd angen mwy o smwddio ar y Maes yn ystod wythnos yr Eisteddfod - bydd tîm o bobl leol yn dod i helpu i wneud hynny
Eisteddfod leol
Mae bob amser yn braf cael mynd 'getre' i Sir Benfro ac i ardal Maenclochog a'r cylch, er nad wyf wedi byw yno ers tua 40 mlynedd.
Ond mi fydd hi'n braf cael bod mewn Eisteddfod lle 'dwi mor gyfarwydd â'r ardal a'i phobl. Mae 'na gyffro mawr ym mro'r Preseli a'r cyffiniau.

Mae Rhinedd yn gobeithio cael mwynhau diwedd wythnos yr Eisteddfod ar ôl yr holl waith paratoi a'r smwddio...
O ran fi'n bersonol, 'na'i ofni taw noswylio cynnar fydd hi bob nos yn ystod yr wythnos a chodi gyda'r wawr; byddaf tu cefn y llwyfan o tua saith bob bore, siŵr o fod, yn paratoi.
Ond ar y nos Wener olaf, wedi seremoni'r Cadeirio, posib caf ymlacio a mwynhau ar faes yr Eisteddfod. Na'i ddim enwi'n union ble, ond, iechyd da ichi gyd!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2025

- Cyhoeddwyd7 Mai

- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
