Crynodeb

  1. Hwyl fawr o'r Sioe Fawr!wedi ei gyhoeddi 16:35 GMT+1 20 Gorffennaf

    Llun dafad metel

    Felly wrth i ddiwrnod cynta'r Sioe Frenhinol ddirwyn i ben, hoffwn ddiolch i chi am ddilyn ein llif byw.

    Fe fydd BBC Radio Cymru yn parhau i ddarlledu o Faes y Sioe gyda'r Post Prynhawn am 17:00 a Troi'r Tir am 18:00, a chofiwch am raglen uchafbwyntiau S4C heno am 21:00.

    Cliciwch yma am fwy o gynnwys o'r Sioe Frenhinol drwy gydol yr wythnos ar wefan BBC Cymru Fyw.

    Hwyl fawr!

  2. Oriel luniau o ddiwrnod cynta'r Sioewedi ei gyhoeddi 16:30 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae wedi bod yn ddiwrnod llawn cystadlu ar ddiwrnod agoriadol y Sioe.

    Edrychwch yn ôl ar y diwrnod gydag oriel luniau Cymru Fyw.

  3. ‘Neb yn gwybod beth mae Andy Burnham yn sefyll drosto’: Ceidwadwyrwedi ei gyhoeddi 16:26 GMT+1 20 Gorffennaf

    Wrth ymateb i benodiad Andy Burnham yn Brif Weinidog newydd y DU, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd “neb yn gwybod am beth mae’n sefyll drosto”.

    Ychwanegodd Darren Millar AS: “Waeth pwy sydd wrth y llyw, y Blaid Lafur sy’n achosi’r broblem ac yn dal ein gwlad yn ôl.

    “Oni bai bod Andy Burnham yn gallu sefyll fyny i ASau Llafur - sydd ond eisiau trethi uwch a mwy o daliadau lles - fydd e methu sicrhau’r twf economaidd sydd ei angen ar ein gwlad.”

  4. Rhun ap Iorwerth: Andy Burnham yn 'rhannu fy nghred yng ngrym datganoli'wedi ei gyhoeddi 16:20 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn gobeithio rhannu ymrwymiad gyda Andy Burnham i ddatganoli grym o San Steffan i Senedd Cymru.

    Dywedodd Rhun ap Iorwerth, sydd ar faes y sioe heddiw, fod penodiad Mr Burnham fel prif weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn gyfle i "ailddiffinio'r berthynas rhwng llywodraeth Cymru a'r DU".

    Mewn araith cyn mynd i mewn i Rif 10, dywedodd Mr Burnham ei fod eisiau tynnu grym allan o Downing Street "a'i gario i bob côd post" er mwyn "adeiladu economi newydd".

    Mae llywodraeth Cymru wedi galw am rymoedd newydd o San Steffan, gan gynnwys dros gyfiawnder a Stad y Goron, ac am drefn ariannu newydd.

    Nia Thomas a Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Mi fydd Rhun ap Iorwerth ar y Post Prynhawn y prynhawn yma sy'n darlledu'n fyw o'r maes am 17:00

    Mewn datganiad, fe wnaeth Mr ap Iorwerth longyfarch Mr Burnham gan ddweud ei fod yn "rhannu fy nghred yng ngrym datganoli i wella bywydau'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu".

    "Yn yr ysbryd hwnnw, dw i’n gobeithio y gallwn ni rannu’r un ymrwymiad o ran datganoli pwerau o San Steffan trwy gryfhau, yn hytrach nag osgoi, senedd genedlaethol Cymru a'i gallu i rymuso pobl a chymunedau," ychwanegodd.

    "Dwi’n edrych ymlaen at gyfarfod cynnar efo’r Prif Weinidog newydd i gytuno sut y gallwn ni roi'r pwerau angenrheidiol i Gymru i dyfu'r economi ac adeiladu dyfodol tecach, mwy ffyniannus i bawb."

  5. Post Prynhawn yn darlledu'n fyw o'r maes am 17:00wedi ei gyhoeddi 16:15 GMT+1 20 Gorffennaf

    Disgrifiad,

    Nia Thomas bydd yn cyflwyno Post Prynhawn yn fyw o Lanelwedd

  6. Cyrraedd y sioe ar barasiwtwedi ei gyhoeddi 16:11 GMT+1 20 Gorffennaf

    Tra bod 'na ddigon o bobl yn gyrru i'r maes yn eu ceir neu'n tynnu carafan tu cefn i gerbyd 4x4, mae'r criw yma wedi cyrraedd o'r awyr...

    Dyma fideo o dîm arddangos yr RAF Falcons yn chwyrlio tuag at y prif gylch...

    ...ac yn glanio'n gelfydd fesul un.

  7. Golygfeydd cyfarwydd i ymwelwyr rheolaidd y Sioewedi ei gyhoeddi 16:02 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae'r tîm cart a cheffyl Tristar yn hen ffefrynnau yn y Sioe ac maen nhw'n ôl eleni i ddiddanu'r dorf yn y brif gylch bob dydd.

    Ceffylau yn tynnu cerbyd
  8. Digwyddiad i bobl sydd mewn gofalwedi ei gyhoeddi 15:56 GMT+1 20 Gorffennaf

    Teisennau

    Mae cartref gofal Tŷ Newydd, ym Maesteg, wedi rhoi digwyddiad ymlaen ar y maes i’r bobl sydd mewn gofal.

    Cwningen
  9. Teyrnged teulu i fab 'annwyl a hoffus' a fu farw yn ardal y Sioewedi ei gyhoeddi 15:39 GMT+1 20 Gorffennaf

    Dewi Aeron EvansFfynhonnell y llun, Llun Teulu

    Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn 25 oed a fu farw yn ardal y Sioe Fawr yn Llanelwedd nos Sadwrn.

    Roedd Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr ger Corwen.

    Wrth roi teyrnged, dywedodd ei deulu ei fod yn "fab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus" a bod ei farwolaeth yn "golled enfawr i'r teulu a'r gymuned yn Uwchaled".

    "Byddai'r teulu a'r gymuned yn gwerthfawrogi preifatrwydd ar yr amser anodd yma."

    Dros y penwythnos, dywedodd yr heddlu bod dyn wedi marw ar Fferm Penmaenau "er gwaethaf ymdrechion parafeddygon".

    Cafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.

  10. Gofalu am anifeiliad yn y gwreswedi ei gyhoeddi 15:28 GMT+1 20 Gorffennaf

    Ceffylau yn cael dwr

    Mae cyfnod poetha'r dydd wedi cyrraedd ac felly mae'n bwysig gwneud yn siwr bod yr anifeiliaid yn gyfforddus - fel y ceffylau yma, sy'n cael gofal da yn y gwres.

  11. Efan, 4, o Lanydsul gyda'i lygad ar dractor newydd...wedi ei gyhoeddi 15:18 GMT+1 20 Gorffennaf

    Efan
  12. Perfformiadau ar gefn beic cwad ydy rhai o'r ffefrynnau bob blwyddynwedi ei gyhoeddi 15:07 GMT+1 20 Gorffennaf

    Un o brif atyniadau'r sioe ydy perfformiad Paul Hannam ar gefn ei feic cwad. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn reidio beic cwad a 10 mlynedd o brofiad yn rasio ar lefel Pencampwriaethau Prydain.

    Mae'r perfformiad yn cynnwys amrywiaeth o styntiau ac eleni fe ddaeth y dorf at ei gilydd unwaith eto!

  13. Ceffylau Shetland bychain yn meindio'u busneswedi ei gyhoeddi 14:58 GMT+1 20 Gorffennaf

    Jac ac Alfie o Ynys Môn sy'n cadw cwmni i'r ceffylau Shetland bychain ar y maes

    Ceffylau Shetland
  14. Gwobr er cof am Charles Arch eleni - un o leisiau eiconig y Sioe Fawrwedi ei gyhoeddi 14:43 GMT+1 20 Gorffennaf

    Eleni yn y Sioe bydd gwobr yn cael ei rhoi er cof am Charles Arch.

    Roedd yn llais cyfarwydd am ddegawdau fel prif sylwebydd Sioe Amaethyddol Cymru yn Llanelwedd, gan sicrhau lle amlwg i’r Gymraeg ym mhrif gylch y sioe.

    Bydd y wobr yn un flynyddol ac yn cael ei rhoi i bobl ifanc sy'n trin ac arwain anifail yn y Sioe - eleni bydd y wobr yn cael ei rhoi i gystadleuydd ifanc yng nghategori'r gwartheg.

    charles archFfynhonnell y llun, Llun teulu
  15. Y gystadleuaeth defaid yn swnio'n brysurwedi ei gyhoeddi 14:34 GMT+1 20 Gorffennaf

    Delwedd (a synau), sy'n rhan annatod o'r sioe!

  16. Yr Welsh Whisperer'n diddanu'r dorfwedi ei gyhoeddi 14:28 GMT+1 20 Gorffennaf

    Mae criw Cymru Fyw wedi dod o hyd i'r Welsh Whisperer yng nghanol y maes ac mae wrthi'n diddanu'r dorf o'r bandstand.

    Welsh Whisperer
  17. Y cynllun cymhorthdaliadau newydd yn 'destun pryder' yn ôl Llafurwedi ei gyhoeddi 14:18 GMT+1 20 Gorffennaf

    Bydd nifer o ffermwyr yn croesawu cyhoeddiad y llywodraeth am ragor o gyllid i'r cynllun cymhorthdaliadau newydd i ffermwyr meddai arweinydd y blaid Lafur, Ken Saktes ond mi fydd hefyd yn codi cwestiynau anodd i Blaid Cymru.

    "Yr wythnos ddiwethaf fe wrthodon nhw roi dim ond ffracsiwn o'r swm yma i anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys yn y blynyddoedd i ddod.

    "Bydd angen iddyn nhw egluro hyn i'r ysgolion a'r teuluoedd sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol."

    Ychwanegodd Skates ei fod yn "destun pryder bod Plaid Cymru wedi penderfynu cadw'r lefel gyllido ar gyfer haenau mwyaf amgylcheddol y cynllun yn wastad am dair blynedd ar adeg pan fo'r angen i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur ond yn mynd yn fwy brys."

  18. Digon o lefydd i dorri syched yn y tywydd cynneswedi ei gyhoeddi 14:08 GMT+1 20 Gorffennaf

    Stondin ddiod
    Stondin ddiod
  19. Roedd 'na dri mochyn bach...wedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1 20 Gorffennaf

    moch

    ... ond er mai tri sydd yma mae 164 yn cystadlu eleni - y nifer uchaf o foch i gystadlu ers degawd.

    Mochyn
  20. Digon o Sioe!wedi ei gyhoeddi 13:43 GMT+1 20 Gorffennaf

    Lle trin gwallt

    Efallai bod y cwt cneifio'n atyniad poblogaidd bob blwyddyn, ond nid y defaid ydi'r unig rai sydd angen gofal ac edrych ar eu gorau...