 |  | | |
Text index -
North Foundation
Describing someone
Dyma i chi eiriau i'w defnyddio wrth ddisgrifio rhywun. | hyll | ugly | | del | pretty (benywaidd/ feminine) | | hardd | beautiful | | golygus | handsome | | tal | tall | | byr | short | | tew | fat | | tenau | thin | | ifanc | young | | hen | old | Cofiwch fod ansoddair (adjective) yn treiglo'n feddal ar ôl enw (noun) benywaidd. Dan ni'n dweud hogan ddel, cath dew.Mae treiglad meddal ar ôl yn/'n: Mae hi'n ddel, mae o'n olygus.Yn Gymraeg, mae'r ansoddair yn dod ar ôl yr enw (noun) fel arfer. Dan ni'n dweud dyn ifanc, merch hardd a.y.b. Ond, mae hen yn wahanol. Mae hen yn dod o flaen yr enw. Dan ni'n dweud hen gi a hen gath. Mae treiglad meddal ar ôl hen.Dan ni fel arfer yn dweud hen ŵr a hen wraig yn lle hen ddyn a hen ddynes.
| | |  | | |  | |
|
|