BWLETIN 9
Gwrandewch Cwestiynau Geirfa
1. Mae adroddiad newydd ar yr ymchwiliad swyddogol i'r saethu ar Bloody Sunday yn Londonderry yn herio honiad y fyddin bod y rhai gafodd eu saethu'n farw'n cario arfau. Dywedir hefyd ei bod hi'n debygol bod un o'r rhai gafodd eu lladd ym mil naw saith dau wedi ei saethu tra roedd e'n gorwedd ar y llawr.2. Yn Llys yr Ynadon, Aberystwyth cafodd y Dr Meredydd Evans a'r Dr Eirwen Gwynn ddirwy o saith deg pump o bunnau yr un a'u gorchmyn i dalu costau o bum punt a deugain am fethu â thalu am eu trwyddedau teledu. 3. Cyhoeddodd cwmni Ford y bydd bron saith gant o swyddi'n diflannu yn eu fatrïoedd dros Brydain, gyda hanner cant yn mynd yn eu ffatri yn Abertawe. Mae'r cwmni'n pwysleisio y bydd y diswyddiadau'n rhai gwirfoddol. 4. Yn Llys y Goron, Caerdydd, daeth y broses o gyflwyno tystiolaeth yn achos y Sea Empress i ben. Mae awrdurdod Porthladd Aberdaugleddau wedi pledio'n euog i achosi i lygredd lifo i'r môr yn sir Benfro dair blynedd yn ôl. 5. Mae cyn brif swyddog meddygol Cymru wedi'i phenodi'n gadeirydd comisiwn newydd fydd yn arolygu'r gwaith o wella iechyd pobl Prydain. Roedd Deirdre Hine yn brif swyddog meddygol yn y Swyddfa Gymreig am saith mlynedd. 6. Mewn cynhadledd i'r wasg yn Llundain, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwydiant, Peter Hain, gynllun i helpu ardal Ystradgynlais lle mae saith gant a hanner o weithwyr yn mynd i golli'u swyddi yn ystod y misoedd nesa'. Yr Awdurdod Datblygu fydd yn arwain yr ymdrech i ddod o hyd i waith newydd i weithwyr ffatri Lucas. 7. Wedi dadl danllyd yn y Cynulliad, penderfynwyd y bydd yr aelodau'n derbyn lwfans o dair mil o bunnau i'w wario ar waith ymchwil a staff ysgrifenyddol. 8. Mae tîm o ddringwyr Americanaidd wedi dod o hyd i gorff y dringwr o Loegr, George Mallory, a ddiflannodd ger copa mynydd Everest ym mil naw dau pedwar. Mae'n nhw'n gobeithio gallu darganfod a lwyddodd Mallory a'i gyd - ddringwr, Andy Irvine, i gyrraedd y copa ai peidio. 9. Mae Arlywydd China wedi cyrraedd Llundain ar gyfer ymweliad swyddogol cynta' arweinydd y wlad gomiwnyddol â Phrydain. Cafodd ei groesawu gan y Frenhines a'r Prif Weinidog ond deëllir na fydd Tywysog Cymru'n bresennol yn y cinio heno. 10. Dywedodd cyn arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, wrth aelodau senedd Ewrop nad oes unrhyw fai arno fe'n bersonol am fethiannau'r comisiwn Ewropiaidd diwetha'. Roedd yn ymddangos gerbron y senedd i amddiffyn ei ail benodi'n gomisiynydd.
|