Episode details

Radio Cymru,3 mins

'Deffro un bore yn fyddar' - Hollie Crooke ar fyw gyda cholled clyw

Lleisiau Cymru

Available for over a year

Bethan Richards sy'n cael cwmni Hollie Crooke ar y podlediad Lleisiau Cymru: Meddwl yn Wahanol. Yma mae'n trafod effaith emosiynol a chorfforol colli clyw a thinnitus ar fywyd bob dydd. Er i Hollie ddioddef peth byddardod ers ei phlentyndod, disgrifia Hollie y sioc o ddeffro un bore a sylwi bod ei chlyw wedi dirywio yn sylweddol dros nos a'i bod bellach bron yn cwbwl fyddar. Mae'n esbonio cymaint o her oedd addasu i sain newydd y byd o'i chwmpas. Er bod yr ymennydd wedi dechrau addasu, mae'r effaith emosiynol yn parhau, gyda chyfnodau o grio, gorlethu a blinder ar ôl diwrnodau prysur. Mae'r sgwrs yn archwilio natur anwadal y profiad, gyda dyddiau da a dyddiau gwael yn dilyn ei gilydd fel "rollercoaster". Esbonia Hollie y gall digwyddiadau bach iawn, fel colli trên sbarduno ymateb emosiynol mawr oherwydd y pwysau a'r straen mae anabledd yn ei gronni.

Programme Website
More episodes