Episode details

Available for over a year
Cadwyn o dri englyn unodl union yn canu mawl i rywun neu rywbeth Rhun ap Iorwerth Hwn yw Rhun, Rhun a’i arweiniad o Fôn i Fynwy’n ddieithriad; Rhun nerthol mewn etholiad; Rhun y glew yn arwain gwlad. Gwlad, gwlad, pleidiol yw’n gwleidydd, yn genedl down i ganu’i glodydd; Rhun y triw, Rhun ein trywydd am yr haul i’r Gymru rydd. Cymru rydd fydd Cymru Rhun, Cymru deg, Cymru’r dweud, nid gofyn; dychwel wnaeth pabi melyn i’w herwau hi. Hwn yw’r un! Ifan Prys
Programme Website