Episode details

Radio Cymru,16 Apr 2024,16 mins
Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 16eg 2024
Y Podlediad Dysgu CymraegAvailable for over a year
Pigion y Dysgwyr – Francesca Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon! Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil... (Y)stumiau Gestures Ymchwil Research Ystrydebol Cliched Ymwybodol Aware Sylwi To notice Hunaniaeth Identity Am wn i I suppose Mynegi To express Lleisiau Voices Barn An opinion Pigion y Dysgwyr – Llyfrau Hanes Bron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed? Llonydd Still Diflas Boring Milwrol Military Agweddau Aspects Yn ddiweddar Recently Pori To browse Taro To strike Cymhleth Complicated Rhaid i mi gyfadde(f) I must admit Ysgolheictod Scholarship Astrus Obscure Pigion y Dysgwyr – Beti a Huw Dr Mari William oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy’n ddiflas iddi hi. Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i’w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau’n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi’r ddau. Moethus Luxurious Cyflwynydd Presenter Darganfod To discover Anhygoel Incredible Pigion y Dysgwyr – Gwyl Ban Geltaidd Wel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on’d ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel! Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti’. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi’n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth... Rhyngwladol International Suddo To sink Alla i ddychmygu I can imagine Profiadau Experiences Canlyniad Result Pigion y Dysgwyr – Jonathan Rio A llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on’d ife! Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas. Dyma fe’n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio... Buddugoliaeth Win Cyfieithydd Translator Peryglus Dangerous Ffon Stick Pigion y Dysgwyr – RNLI Mae’n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e? Mae’r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â’r RNLI.. Dau ganmlwyddiant Bicentenary Bad achub Lifeboat Ymuno â To join Rhiant Parent Mewn cysylltiad â In contract with Hyfforddiant Training
Programme Website