Episode details

Radio Cymru,26 Mar 2024,17 mins

Podlediad Pigion y Dysgwyr y 26ain o Fawrth 2024

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr Saddler Cymwysterau Qualifications Ffodus Lwcus Creadigol Creative Ail-greu To recreate Lledr Leather Cyfrwy Saddle Ar waith In the pipeline Amrywiaeth Variety Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o’r ffilmiau mwya enwog, on’d yw hi? Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma’r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public Health Cydweithiwr Co-worker Sylwi To notice Heb os nac oni bai Without doubt Brwdfrydedd Enthusiasm Y cyfnod clo The lockdown Degawd Decade Ymdrech Effort Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn Mike Olson oedd hwnna’n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae’r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma’r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni’n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta Ymgyrch Campaign Ymwybodol Aware Goleuni Light Glynu To stick Galluogi To enable Heulwen liw nos Evening sun Ennyn cefnogaeth To elicit support Mesur A Bill Deddf Statute Cynhyrchu arfau Arms manufacturing Ar fyrder In haste Pigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts Cofiwch droi’r clociau yna ymlaen cyn mynd i’r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi’n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on’d oedd hi? Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House’ sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100’.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon? San Steffan Westminster Braint Privilege Cydnabod Acknowledge Dylanwadu To influence Yn eu plith nhw Amongst them Pleidiau gwleidyddol Political parties Awch Eagerness Ysgogiad Motivation Rhagflaenydd Predecessor Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e’n dod o Sir Benfro a dyma fe’n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds. Cyfrifol am Responsible for Lles Welfare Trwyddedau Licenses Yn feunyddiol Daily Carcharor Prisoner Gwendidau Weaknesses Lleithio Becoming damp Pallu Methu Bygwth gwae Threatening Llyw Steering wheel Pigion y Dysgwyr – Caryl Wel dyna stori ddoniol, a dw i’n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre. Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio Ysbrydoliaeth Inspiration Denu dy sylw di Drew your attention Pice ar y maen Welsh cakes Cas-gwent Chepstow Cynhwysion Ingredients Llwyfannau cymdeithasol Social media Ryseitiau pobi Baking recipes Cacen glou A quick cake

Programme Website
More episodes