Episode details

Radio Cymru,19 Mar 2024,15 mins
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024
Y Podlediad Dysgu CymraegAvailable for over a year
DROS GINIO 11.03.24 Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg? Ympryd A fast Cymuned Community Nodi To mark Crefyddol Religous Datgelu To reveal Hunanddisgyblaeth Self discipline Llai ffodus Less fortunate Ansicrwydd Uncertainty Heriol Challenging Adlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24 Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai’n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i’r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy’n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno. Cynhyrchu To produce Gwinllan Vinyard Her A challenge Grawnwin Grapes Llethr Slope Gwerthfawrogi To appreciate Addas Appropriate Sefydlu To establish Micro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munud Gwinwydd Vines Arallgyfeirio To diversify GEORGIA RUTH 12 03 24 Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on’d oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd! Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e’n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe’n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg... Rhydychen Oxford Gwlad y Basg The Basque Country Offeryn Instrument Gwneuthurion Manufacturers Preniach Small pieces of wood Pastynau Clubs Gwledda To feast Wedi swyno Charmed Ymatebol Responsive Llanast Mess Rhyfeddol Wonderful BORE COTHI 15.03.24 Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a’r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta... Rhufain Rome Cwrs Preswyl Residential course Ymarfer To practice DROS FRECWAST 14.03.23 Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai’n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad. Rhestr fer Short list Penderfyniad enfawr Huge decision Cyflawni To achieve Y cyhoedd The public Uchafbwynt Highlight BETI A’I PHOBOL 17.03.24 George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny! Trueni Bechod Sylw a stwr Fuss and attention Cefn gwlad The countryside Enwoca The most famous Bodoli To exist
Programme Website