Episode details

Radio Cymru,12 Mar 2024,15 mins

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 12fed o Fawrth 2024

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

BORE COTHI 04.03.24 Gredwch chi fod 50 mlynedd ers i Abba ennill yr Eurovision gyda’u cân Waterloo? Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes a buodd hi’n holi’r arbenigwr pop, Phil Davies, am lwyddiant Abba. Llwyddiant Success Sbort a sbri Fun Ysgariad Divorce Dwfn Deep Cyfnod Period DROS GINIO 04.03.24 Ie, mae caneuon Abba dal yn boblogaidd on’dyn nhw? Mae’n pedwardeg o flynyddoedd ers Streic y Glowyr a buodd Rhodri Llywelyn yn holi Amanda Powell, sydd ar fin cyhoeddi llyfr ar y streic. Roedd Amanda yn ei chanol hi fel gohebydd dan hyfforddiant yn ystod y streic yn 84 ac 85. Glowyr Miners Ar fin cyhoeddi About to publish Gohebydd dan hyfforddiant Trainee journalist Ymhlith Amongst Cymunedau Communities Agweddau Attitudes Cyfryngau cymdeithasol Social media RHYS MWYN 04.03.24 Amanda Powell yn fanna yn cofio Streic y Glowyr. Mae’r band Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau eu chweched albwm sef ‘Mynd â’r tŷ am dro’ ac ar raglen Rhys Mwyn buodd Iwan ac Aled o’r band yn egluro pa mor hapus oedden nhw gyda un o'r traciau sef ‘Adenydd’, ac yn sôn am sut cafodd y geiriau eu hysgrifennu. Hon ydy cân orau Cowbois erioed tybed? Adenydd Wings Rhyddhau To release Annisgwyl Unexpected Trefniant Arrangement Saernïo To refine Syth bin Straight away Canu gwlad Country & Western Isdeitlau Subtitles Mynegi To convey Chwysu Sweating BORE COTHI 07.03.24 Wel mae Rhys Mwyn wir yn dwlu ar gân newydd Cowbois on’d yw e? Y tenor o Hen Golwyn, Ryan Vaughan Davies gafodd sgwrs efo Shan Cothi fore Iau. Mae Ryan yn canu ar hyn o bryd gyda’r Tŷ Opera yn Llundain ac yn brysur iawn fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma... Dwlu ar Hoff iawn o Llwyfan Stage Perthynas Relationship FFION EMYR 08.03.24 Ychydig o hanes y tenor o Hen Golwyn, Ryan Vaughan Davies yn fanna ar Bore Cothi. Mae Maria Owen-Roberts o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn cynnig gwasanaeth Trefnu a Thacluso Proffesiynol. Mae’n rhedeg busnes o’r enw ‘Twt’ ers tair mlynedd - Twt sef trefn wedi’r tacluso. Roedd Maria’n sôn am sut i gael trefn ar y tŷ, ar raglen Ffion Emyr nos Wener. Crediniol To firmly believe Yn gyson Consistently Eitha rheolaidd Fairly regularly Tasg anferthol A huge task Call iawn Very wise Fesul dipyn Little by little Llnau Glanhau Meddylfryd Mindset Argymell To recommend Egni corfforol Physical energy Tarfu ar To disturb BETI A’I PHOBOL 10.03.24 On’d yw glanhau’r Gwanwyn yn swnio’n waith caled? Pob lwc i bob un ohonoch chi sydd am fynd ati! Dafydd Wigley - yr Arglwydd Wigley - oedd gwestai Beti George ddydd Sul. Mae hi’n 50 mlynedd ers iddo fe gael ei ethol i San Steffan. Buodd e’n cynrychioli Arfon yno am 27 mlynedd. Roedd perthynas enwog gyda fe o Ogledd America, ond dw i ddim yn siŵr pa mor falch yw Dafydd o’r cysylltiad hwn... Cael ei ethol Was elected Cynrychioli To represent Dau ganmlwyddiant Bicentenary Bodolaeth Existence Gyrfa wleidyddol Political career Tyrru mewn To flock in Uniongyrchol Directly Deddf Legislation Deddfwrfa Legislature

Programme Website
More episodes