Episode details

Radio Cymru,27 Feb 2024,13 mins

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 27ain o Chwefror 2024

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

Pigion Dysgwyr – Japan Wythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol Aware Yn llythrennol Literally Gofod Space Yn y bôn Essentially Lle ddaru Ble wnaeth Y tu hwnt Beyond Rheolau Rules Parch Respect Ymddwyn To behave Meistroli To master Pigion Dysgwyr – Adam Jones Traddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddorol on’d ife? Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei nabod. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd e’n 3 oed yng ngardd ei dad-cu, neu daid, yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo, a fe ddechreuodd meithrin sgiliau a gwybodaeth garddio Adam.. Balch Proud Ar goedd Publicly Cwato To hide Rhyched o dato A furrow of potaoes Tueddiad A tendency Mas draw Yn fawr iawn Gwybedyn bach A small fly Awch A keeness Cyfuno To combine Cenedlaethau Generations Pigion Dysgwyr – Rhys Meirion Felly mae diolch i dad-cu Adam am y rhaglenni garddio gwych sydd ar S4C. Gwestai Shan Cothi yn ddiweddar ar gyfer slot Cofion Cyntaf oedd y canwr Rhys Meirion. Yn y rhan yma o’r rhaglen mae gwestai gwahanol yn cofio eu dyddiau cynnar a rhai o’u hatgofion cynhara. Dyma Rhys Meirion i sôn am ei atgofion e….. Atgofion cynhara Earliest memories Diffoddwr tân Fire Extinguisher Gollwng To drop Arogl A smell Gwydn Tough Pigion Dysgwyr – RNLI Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd, fel Rhys Meirion, yn cofio arogl cinio ysgol! Eleni mae’r RNLI yn dathlu penblwydd yn 200 oed. Ers 1824 mae badau achub ar draws Ynysoedd Prydain wedi bod yn achub bywydau a phnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones air gyda Mali Parry Jones o Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Mae hi’n gwirfoddoli gyda Bad Porth Dinllaen a dyma hi’n cofio gweld y bad achub yn mynd allan pan oedd hi’n ifanc. Badau Achub Lifeboats Gwirfoddoli To volunteer Rhan annatod Integral part Galwad A call Clogwyni Cliffs Ymdrech ehangach A wider effort Elusen Charity Ysgogi To motivate Gwythiennau Veins Pigion Dysgwyr – Rent Mae’n amlwg bod y badau achub yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymuned Morfa Nefyn on’d yw e? Llongyfarchiadau mawr i’r RNLI ar ei ben-blwydd yn 200 oed. Nos Fercher ddiwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Steffan Lloyd. Mae Steffan yn canu mewn cynhyrchiad o’r sioe lwyfan Rent sydd ymlaen ym Mhort Talbot yr wythnos hon. Gofynnodd Caryl i Steffan yn gynta sut mae’r ymarferion wedi bod yn mynd hyd yn hyn Cynhyrchiad Production Cyfarwyddwr cerddoriaeth Musical director Golygfa Scene Cywilydd gen i ddweud I’m ashamed to say Cyflwyno To present Pigion Dysgwyr – Jemeima A phob lwc i Steffan a’r cast ar y perfformiad. Dw i’n siŵr ei bod yn sioe ardderchog. Dych chi’n gwybod am hanes Jemima Nicholas helpodd rwystro glaniad y Ffrancod yn Sir Benfro yn 1797. Wel dyma y Parchedig Richard Davies o Gasnewy(dd) Bach ger Abergwaun i sôn am ddigwyddiad dros y penwythnos i gofio am Jemima ar Bore Cothi fore Iau. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes y diwrnod hwnnw. Rhwystro glaniad To prevent the landing Ildio To surrender Amlwg Prominent Dadorchuddio To unveil Mynwent Cemetary Carreg goffa Memoria stone Arddangosfa hanesyddol Historical exhibition Brodwaith Tapestry Ysbrydoli To inspire Mas Allan

Programme Website
More episodes