Episode details

Radio Cymru,20 Feb 2024,12 mins
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 20fed o Chwefror 2024
Y Podlediad Dysgu CymraegAvailable for over a year
Pigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi’n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a’r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday Crempogau/pancos Pancakes Poblogaidd Popular Iseldiroedd Netherlands Ffrimpan Padell ffrio Burum Yeast Dwlu ar Hoff iawn o Gwead Texture Twym Cynnes Dodi Rhoi Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina’n sôn am y gwahanol mathau o grempogau sydd i’w cael. Dych chi'n cael problemau gyda'ch cefn? Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae bron i filiwn o bobl y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw'n rhy dost i weithio oherwydd poen yn eu cefnau. Cafodd Gwyn Loader, oedd yn cadw sedd Jennifer Jones yn dwym bnawn Mawrth, sgwrs gyda Fflur Roberts o Gaernarfon, sy'n ffisiotherapydd ers pymtheg mlynedd. Gofynnodd Gwyn iddi hi’n gynta oedd hi'n credu bod y nifer o bobl sy’n gweithio o gartre ers y pandemig wedi gwneud y sefyllfa’n waeth? Swyddfa Ystadegau Gwladol Office for National Statistics Yn rhy dost Yn rhy sâl Y Deyrnas Unedig The UK Cymalau Joints Gwanio To weaken Pigion Dysgwyr – Chicago Y pandemig wedi gwneud drwg i’n cefnau ni yn ôl y ffisiotherapydd Fflur Roberts a chyngor pwysig iawn ganddi am yr angen i symud o’r sgrîn bob hyn a hyn.. Mae Cymdeithas Gymraeg Chicago yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth eleni. Aelod o’r Gymdeithas yw Catrin Rush o ardal Aberporth ger Aberteifi yn wreiddiol, a chafodd hi sgwrs gyda Aled Hughes ddydd Mercher. Gofynnodd Aled iddi hi faint o aelodau oedd gan y Gymdeithas... Chwarter canrif Dau ddeg pum mlynedd Bodolaeth Existence Tu fas Tu allan Digwyddiad Event Goleuo Illuminated Pigion Dysgwyr – Y Lleuad Llongyfarchiadau mawr i Gymdeithas Gymraeg Chicago a phob hwyl ar y dathlu on’d ife? Bore Iau diwetha cafodd Gwenllian Grigg a Dylan Ebenezer gwmni Geraint Jones ar Dros Frecwast i sôn am deithiau roced i’r lleuad gan gychwyn ym mis Rhagfyr 1972. Unol Daleithiau USA Y lleuad The moon Glanio To land Llwyddiannus ofnadwy Terribly successful Gofodwyr Astronauts Pridd Soil Llwch Dust Aflwyddiannus Unsuccessful Ymdrechion Attempts Pigion Dysgwyr – Rex Ychydig o hanes teithiau i’r lleuad yn fanna ar Dros Frecwast. Fore Gwener diwetha ar eu rhaglen cafodd Trystan ac Emma gwmni y ffermwr o Abergwaun Charles Lamb. Mae gan Charles gi defaid annwyl iawn o’r enw Rex. Mae Rex yn dipyn o gymeriad ac yn fwy na pharod i ddangos i Charles beth mae e’n hoffi a beth mae e’n ei gasau Yn fwy na pharod More than ready Ffindir Finland Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis Rex yn ei gwneud yn glir nad oedd e am fynd i’r gwely! Bob mis ar ei rhaglen mae Shan Cothi yn cael cwmni yr adarwr Daniel Jenkins Jones i sôn am Aderyn y Mis. Y tro ‘ma y Gornchwiglen oedd o dan y chwyddwydr a dyma Daniel i sôn mwy am yr aderyn arbennig hwn…. Adarwr Ornithologist Cornchwiglen Lapwing Chwyddwydr Microscope Yn gyfarwydd Familiar Nythu To nest Wedi prinhau Has become scarce Gwarchodfeydd natur Nature reserves Pert Del Adenydd Wing Pluen Feather Trawiadol Striking
Programme Website