Episode details

Radio Cymru,30 Jan 2024,12 mins

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 30ain o Ionawr 2024

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

Pigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio’r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb Petition Llofnodion Signatures Prif Weithredwr Chief Executive Gwyrthiau Miracles Bras Bold Tristwch Sadness Cefnogwyr Fans Digwyddiad Event Pigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni glywed y cefnogwyr yn gweiddi Cymru yn lle Wales yn y dyfodol. Cawn weld on’d ife? Nos Fawrth diwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Del Jones. Mae Del yn dod o Garn Fadryn ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ond yn byw nawr yng Nghlynnog Fawr gyda’i phartner Math. Erbyn hyn mae hi wedi dilyn ei breuddwyd ac agor siop yng Nghricieth a hefyd mae hi‘n rhedeg gwasanaeth glanhau. Dyma Del yn esbonio y daith gymerodd hi ar ôl iddi hi adael ei swydd fel rheolwr gwesty…… Breuddwyd Dream Penderfyniad Decision Cryfder Strength Ymchwil Research Ffyddlon Faithful Rhan amser Part time Y Cyfnod clo Lockdown Heriol Challenging Pigion Dysgwyr – Treorci A phob lwc i Del gyda’i menter newydd on’d ife? Ar eu rhaglen Sadwrn cafodd Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips air gyda rhai oedd wedi dod i dafarn y Lion yn Nhreorci . Mae yna gynllun wedi dechrau yn nhrefi Aberdâr a Threorci i annog dysgwyr i fynd i siopau ble mae yna siaradwyr Cymraeg yn gweithio, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Hapus i Siarad yw enw’r cynllun ag un oedd yn y Lion oedd Jo… Menter Venture Annog To encourage Sylweddoli To realise Dwy fenyw Dwy ddynes Ieuenctid Youth Diwylliant Culture Yn ddifrifol (o ddifri) Seriously Pigion Dysgwyr – Guto Bebb On’d yw hi’n bwysig rhoi cyfle i ni gyd fedru defnyddio’n Cymraeg yn y gymuned? Da iawn a phob lwc i griw Hapus i Siarad. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha oedd cyn Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb. Un o’i ddiddordebau mwya ydy cerddoriaeth fel buodd e’n sôn wrth Beti... Aelod Seneddol Aberconwy Former Aberconwy MP Diléit Diddordeb Gor-ddweud To exaggerate Buddsoddi’n helaeth To invest massively Casgliad A collection Mynd at fy nant i Interests me Dw i’n dueddol o I tend to Pigion Dysgwyr – Mills and Boon Pedair mil o albymau? Wel dyna beth yw casgliad helaeth on’d ife? Thema rhamantus oedd ar Dros Ginio bnawn dydd Iau pan buodd Lissa Morgan yn sôn am gyfres ramant Mills and Boon. Mae Lissa wedi bod yn ysgrifennu llyfrau i’r cwmni a dyma hi i ddweud ei stori. Cyhoeddi To publish Cyflwyno To introduce Cynhyrchiol Productive Mor awyddus So eager Tu hwnt Beyond Pigion Dysgwyr – Grav Digon o ramant ar Dros Ginio ar ddydd Santes Dwynwen! Ers degawd bellach mae’r actor Gareth John Bale wedi bod yn perfformio y sioe un dyn “Grav” am hanes bywyd y chwaraewr rygbi a’r darlledwr Ray Gravelle, o Fynydd-y-garreg ger Cydweli. Ond cyn bo hir bydd y sioe yn teithio i Adelaide yn Awstralia. Dyma Gareth i sôn mwy… Degawd Decade Rhyfeddol Amazing Antur Adventure Ymateb Response Cwpla Gorffen Cawr Giant Pwysau Pressure Dehongliad Interpretation Gwyro To deviate Gofod Space Yn uniongyrchol Directly

Programme Website
More episodes