Episode details

Radio Cymru,16 Jan 2024,12 mins
Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 16eg o Ionawr 2024.
Y Podlediad Dysgu CymraegAvailable for over a year
Pigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a’i rhan hi ynddi. Cyfres Series Ymdrin â To deal with Mabwysiadu To adopt Hoyw Gay Tyner Gentle Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes Gwyneth Keyworth oedd honna’n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo’r Gymdeithas Bêl-droed. Gweledigaeth Vision Pennaeth Cyfathrebu Head of Communication Cyflwyno Introduce Naws Cymreig A Welsh ethos Plannu hadau Planting seeds Gorfodi To force Diwylliant Culture Hunaniaeth Identity Cynrychioli To represent Balchder Pride Ymateb To respond Gan amlaf More often than not Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds. Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a’I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o’n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd…… Ffydd Faith Dwyn i fyny Brought up Gweddïo To pray Aballu And so on Pigion Dysgwyr – Pilates Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau Annog To encourage Garddwrn Wrist Y glun The hip Anadlu To breath Asennau Hips Tueddu i or-ddatblygu Tend to over develop Sbio Edrych Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith. Trwy gyfrwng Through the medium Gweithgareddau Activities Pigion Dysgwyr – Pantomeim Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? . Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o’r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi’n gynta ers pryd mae’r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim Elusennau Charities Llwyfan Stage Pres Arian Bant I ffwrdd Y brif ran The main part Ymylol Peripheral Tywysoges Princess Tylwyth teg Fairy
Programme Website