Episode details

Radio Cymru,28 Nov 2023,15 mins

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 28ain 2003.

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

1 Byd y Bandiau Pres: Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae’r ddau, pan oedd Owain yn aelod o’r band a John yn arwain: Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band Band Pres Brass band Ieuenctid Youth Dyddiau aur Golden era Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful Uchafbwynt Highlight Safon Quality Pencampwriaeth Championship Ac felly bu And so it was Disgyblion Pupils 2 Beti a’i Phobol: John Glyn Jones ac Owain Gruffudd Roberts oedd y rheina’n cofio eu hamser efo’r band pres. Tomos Parry, cogydd a pherchennog tri bwyty yn Llundain oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n brysur yn rhedeg bwytai Brat, Mountain a Brat Outdoors. Mi enillodd o seren Michelin yn Brat, ei fwyty cyntaf. Yma, mae’n sôn am bobl enwog sydd wedi bod yn ei fwytai: Cynhwysion Ingredients Yn weddol gyson Fairly regularly Aballu And so on Cefnogol Supportive Ysbrydoli To inspire Cerddoriaeth Music 3 Rhaglen Ifan gyda Hana Medi yn cyflwyno: Tomos Parry y cogydd oedd hwnna, ac mae’n amlwg bod pobl enwog ar draws y byd yn mwynhau dod i’w fwytai. Gwestai ar raglen Hana Medi oedd Esyllt Ellis Griffiths Llysgenhades Sioe Frenhinol 2024. Mi fuodd hi’n sôn am gale ndr sy newydd ei gyhoeddi i godi arian at apêl y Sioe Frenhinol yn 2024 – Sioe’r Cardis fel mae’n cael ei galw! Ond ddim calendr arferol ydy hon, o na ond un noeth!… Llysgenhades Ambassador Noeth Naked Pwyllgorau Committees Trefniadau Arrangements Pen tost Cur pen Balch Pleased Ar y cyfan On the whole Ffili Methu Elusennau Charities Cwympo mas Falling out Cneifio Shearing 4 Rhalgen Ffion Dafis: Wel dyna i chi gesys ynde? Dw i’n siŵr bydd y calendr yn gwerthu’n arbennig o dda! Ar Sul y 19eg o Dachwedd, Hywel Gwynfryn oedd gwestai Ffion Dafis. Mae Hywel newydd gyhoeddi cofiant yr actores Siân Phillips, ac mae o ar gael yn y siopau rŵan ar gyfer y Nadolig. Yma mae Hywel yn sgwrsio am y broses o sgwennu‘r cofiant: Cofiant Biography Rŵan ac yn y man Now and then Yn awyddus Eager Hunangofiant Autobiography Deugain mlynedd 40 years Rhwyd Net Daeth e i fwcwl Came to fruition Gogwydd An angle I raddau To an extent Ffynhonnell Source Ysgrifau Articles 5 Dros Ginio: Ia, dyna fasai anrheg Nadolig gwerth chweil i rywun ynde - cofiant Sian Phillips gan Hywel Gwynfryn. Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza, mae'r bardd Iestyn Tyne wedi bod yn cydweithio gyda beirdd o Balesteina i gyfieithu eu gwaith a rhoi llwyfan Gymraeg i'w lleisiau a'u profiadau. Mi fuodd o’n trafod y gwaith efo Rhodri Llywelyn ar Dros Ginio bnawn Llun wythnos diwetha: Beirdd Poets Llwyfan A stage Barddoniaeth Poetry Estyn allan To reach out Mewn difri Seriously Ymwybyddiaeth Awareness Gweithred fach A small deed 6 Aled Hughes: Prosiect diddorol iawn gan Iestyn Tyne yn cyfieithu gwaith beirdd Palesteina i’r Gymraeg. Ddydd Mawrth yr 21ain o Dachwedd, Lisa Fearn y gogyddes yn oedd yn cadw cwmni i Aled Hughes. Sôn am daffi triog oedd hi ac am y traddodiad o fwyta’r taffi yr amser yma o’r flwyddyn: Taffi triog Treacle toffee Cyflaith Toffee Yn rheolaidd Regularly Traddodiad Tradition Gwirionedd Truth Canrif Century Ar ddihun Awake

Programme Website
More episodes