Episode details

Available for over a year
Pigion Dysgwyr – Stacey Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi’n storïwraig ac yn gerddor sy’n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn... Storïwraig Storyteller (female) Cerddor Musician Tmod Ti’n gwybod Cyfansoddwraig Composer (female) Ceinciau Branches Bodoli To exist Enaid Soul Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy’n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau’r Ddawns yw enw’r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi’r llyfr Brwd Enthusiastic Dogfen Document Cyfrifol Responsible Dow dow Very slowly Dallt y dalltings Knowing the ins and outs Hoelion wyth Eminent people Adfer To restore Aelwydydd Homes Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau’r Ddawns. Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe’n sôn am yr unig elfen o’r ymchwil sy’n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na’r rhai sy’n gallu siarad un iaith yn unig... Ymchwil Research Dwyieithog Bilingual Llefaru To speak Cymhleth Complicated Cadarnhau To confirm Pigion Dysgwyr – Elin Maher Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on’d oes yna? Yn enwedig yn Nghymru’r dyddiau hyn. Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe’n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi’n gweithio’n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a’r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir. Her A challenge Safleoedd Sites Agwedd Attitude Cynghorwyr Councillors Ddim o reidrwydd Not necessarily Brwydr A fight Dealltwriaeth Understanding Heb os nac oni bai Without doubt Cydnabod To acknowledge Dychymyg Imagination Pigion Dysgwyr – Adri A diolch byth am bobl fel Elin sy’n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on’d ife? Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o’r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau’r 80au. Dyma hi’n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol... Iseldiroedd Netherlands Anaddas Unsuitable Tanwydd Fuel Suddo To sink Arfordir Coastline Creigiau Rocks Darlledu To broadcast Doniol Funny Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts On’d yw Atri’n gymeriad a hanner? Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae’r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy.. Sioe arddwriaethol Horticultural show Annog To encourage Hen bryd About time Hud a lledrith Magic
Programme Website