Episode details

Radio Cymru,22 Aug 2023,14 mins

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 22ain 2023

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

Pigion Dysgwyr – Hiraethog Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon Ymgyrch Campaign Denu To attract Ywen Yew Cynaliadwy Sustainable Murluniau Murals Cerflun Statue Taflunydd Projector Pererinion Pilgrims Treffynnon Holywell Pigion Dysgwyr – Brechu Disgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda’r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a’i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau’r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi … Amlygrwydd Prominance Enwebu To nominate Sefydlu To establish Brechu To vaccinate Pellter Distance Rhwystredigaeth Frustration Darparu To provide Cyflawnoch chi gampweithiau You achieved great things Gwirfoddolwyr Volunteers Herio To challenge Pigion Dysgwyr – Drws y Coed Gan obeithio na fydd rhaid i Dr Eilir Hughes gyflawni campweithiau tebyg yn y dyfodol agos on’d ife? Yr wythnos diwetha ar raglen Dei Tomos aeth Dei â’r gwrandawyr ar daith i ardal Drws y Coed yn Eryri. Dyma Bob Morus yr hanesydd lleol i sôn am rywbeth ddigwyddodd i gapel Drws y Coed yn 1892 Anferthol Huge Ailadeiladu To rebuild Difrod Damage Addoliad Worship O’r herwydd As a consequence Oedfaon Services Anghydffurfiol Nonconformist Olion Remains Amlinell Outline Helaethu To extend Pigion Dysgwyr – Eisteddfod 1956 Bob Morus oedd hwnna’n adrodd hanes capel Drws y Coes gyda Dei Tomos. Gyda'r miloedd erbyn hyn wedi gadael Boduan ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae yna edrych ymlaen mawr at Eisteddfod 2024 yn Rhondda Cynon Taf. Dydy'r Eisteddfod ddim wedi bod yn yr ardal honno ers 67 o flynyddoedd. Aberdâr yng Ngwm Cynon oedd y lleoliad ym 1956, ac ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha buodd Alun Thomas yn siarad â rhai o drigolion y cwm oedd yno bryd hynny, gan gynnwys yr actores Gaynor Morgan Rees cafodd ei magu yn yr ardal. Oedd yr eisteddfod honno’n wahanol i eisteddfodau’r dyddiau hyn tybed? Trigolion Residents Dawnsio gwerin Folk dancing Ymgasglu To congregrate Emynau Hymns Cerflun Statues Seremoni cyhoeddi Proclamation ceremony Profiad gwefreiddiol A thrilling experience Cymeradwyo Applauding Bythgofiadwy Unforgettable Pigion Dysgwyr – Dill Jones Wel mae’n amlwg bod Gaynor Morgan Rees , a dw i’n siŵr llawer iawn o drigolion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen yn arw at y Steddfod. Dych chi wedi clywed am Dill Jones o Gastell Newydd Emlyn? Wel yr wythnos diwetha roedd hi’n ganrif ers iddo fe gael ei eni. Roedd e’n feistr ar y piano ac yn enwedig ar arddull y Stride sef math o jazz oedd yn boblogaidd yn 20au a 30au’r ganrif ddiwetha. Dyma’r cerddor jazz Tomos Williams yn sgwrsio gyda Bethan Rhys Roberts ar Bore Sul am fywyd Dill Jones….. Canrif Century Arddull Style Trwy gydol ei yrfa Throughout his career Ymwybodol iawn Very aware Cymreictod Welshness Angerdd Passion Yn gwmws Exactly Crebwyll Creativity Cyd-destun Context Trwytho Immersed Pigion Dysgwyr – Deintyddiaeth Hanes y pianydd jazz Dill Jones yn fanna ar Bore Sul. Dydd Iau diwetha ar Dros Ginio cafodd Gwenllian Grigg gwmni Siwan Phillips, sydd ar ei blwyddyn ola’n astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Gofynnodd Gwenllian iddi hi yn gynta faint oedd ei hoedran hi pan benderfynodd mai deintydd oedd hi am fod? Profiad gwaith Work experience Deintyddfa Dentist surgery Amgylchedd gweithio Working environment Mantais Advantage Digwydd bod As it happens Hynod o hir Extremely long Cystadleuol Competitive

Programme Website
More episodes