Episode details

Cymru,23 Aug 2022,13 mins

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

Cofio - Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009. Gwersylla To camp Oddeutu About Ychwanegol Additional Gan benna(f) Mainly Adnoddau Resources Cychod Boats Adran feithrin Nursery Adloniant Entertainment Diddori To entertain Dyletswyddau cyffreinol General duties Dei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i’w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio’n ôl i 1567! Prin iawn Very rare Rhagair Introduction Biau To own Yn gymharol ddiweddar Fairly recently Casglwyr Collectors Cofi dre Person o Gaernarfon O fath yn y byd Of any kind Bore Cothi - Dei Tomos oedd hwnna’n cael golwg ar lyfrgell arbennig Gerald Morgan. Shelley Rees Owen fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Mercher diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo Daniel Jenkins Jones o’r RSPB am y Pâl neu’r Puffin. Colur dros eu pig Makeup over their beak Triongl Triangle Llachar Bright Mas yn yr Iwerydd Out in the Atlantic Nythu To nest Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century Llongddrylliad Shipwreck Llygod mawr Rats Difa To destroy Beti a’i Phobol - Bach o hanes y palod yn fanna , bechod eu bod wedi ein gadael ni erbyn hyn ynde? Cafodd Beti George sgwrs efo’r dylunydd a’r gemydd Ann Catrin Evans o Dregarth ger Bangor. Ann wnaeth Coron Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma Beti’n gofyn iddi hi ai cael gyrfa ym maes celf oedd hi eisiau ei wneud erioed? Dylunydd a gemydd Designer and jeweller Coron Crown Cam i’r tywyllwch A step into the unknown Celfyddydau The arts Bywoliaeth A livelihood Clod Praise Hybu To promote Cefnogaeth Support Cydnabyddiaeth Acknowledgement Ni y Nawdegau - Ann Catrin Evans yn siarad efo Beti George am ei gwaith fel dylunydd a gemydd. Nos Iau ar Radio Cymru, y ddig-rifwraig Esyllt Sears oedd yn edrych yn ôl ar Oes Aur y 90au ... Digrifwraig Female comedian Oes aur Golden age Aberthu To sacrifice Uchafbwyntiau Highlights Maeddu Curo Ymdrechion Attempts Llwyfannau Stages Dygymod To put up with Goroesi To survive Amherthnasol Irrelevant Bore Cothi - Esyllt Sears oedd honna’n edrych yn ôl ar y nawdegau. Mi roedd hi’n Wythnos y Bandiau Pres ar Bore Cothi ac mi gafodd Shelley Rees Owen sgwrs efo Tomos Evans o Fand Cross Keys, enillodd Dosbarth 4 a 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Dyma i chi flas ar y sgwrs,,, Bandiau pres Brass bands Llwyddiannus iawn Very successful Dyrchafu To be promoted Darnau Pieces Yn glou Quickly Crynhoi To summarise

Programme Website
More episodes