Episode details

Radio Cymru,22 Oct 2021,14 mins

Pigion y Dysgwyr 22ain Hydref 2021

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Available for over a year

CYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae’n gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg Bardd Poet Cymrawd Fellow Cwympo mewn cariad To fall in love Mwyaf rhyfeddol Most amazing Y gynghanedd Welsh metrical alliteration Yn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetry Led-led y wlad Throughout the country Gweithdy Workshop Sylweddoli To realise Cenhadon Missionaries GWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS Mohini Gupta oedd honna’n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e’n esbonio wrth Hanna sut mae e’n mynd o’i chwmpas hi... Mynd o’i chwmpas hi To go about it Dipyn o gamp Quite an achievment Cymryd yn ganiataol To take for granted Canolbwyntio Concentrating Ystyried Considering Gwybodaeth gyffredinol General information Mo’yn Eisiau BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER Mae’n wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i’r rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn fuan ar ôl ei dysgu ydy’r actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn ‘Enfys’ drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni’r hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi… Dwys Intensive Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council Llawrydd Freelance GERAINT LLOYD – JAMES HORNE Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on’d ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi ‘dysgwr y dydd’ ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor o’r enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe. Cwrs TAR PGCE course Parhau To continue Hedfan Flying Cwrs Calan New Year’s course GERAINT LLOYD – ELISABETH HALIJAS Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy’n dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn – dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith. Defnyddiol Useful Ymgynghoriad Consultation Gwirfoddoli To volunteer BETI GEORGE – GRANT PEISLEY Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on’d ife? Ac mae’n wych ei bod hi, sy’n dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i’w chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e’n hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu…. Hynafiaid Ancestors Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners Go iawn Really Cyswllt Connection Ieuengaf Fenga/ifanca Cyfnitherod Female Cousins Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd â ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi’n byw, o ble bynnag dych chi’n dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i’n siŵr, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o’ch cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!

Programme Website
More episodes