Episode details

Radio Cymru,02 Nov 2025,47 mins

Jane Richardson

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George sy'n holi Jane Richardson - Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru. Fe gafodd Jane ei geni a'i magu yn Lloegr. Cymraes oedd ei mam, ac i Gymru y bydden nhw'n dod fel teulu ar eu gwyliau. Wedi graddio yn Rhydychen ac yna priodi, fe ddaeth i Ben Llŷn i fyw, a chael gwaith gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac fe ddysgodd Gymraeg. Ddwy flynedd yn ôl fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Amgueddfa Genedlaethol, a hynny ar adeg heriol iawn yn hanes y sefydliad.

Programme Website
More episodes