Episode details

Radio Cymru,22 Jun 2025,56 mins

Manon Awst

Beti a'i Phobol

Available for 18 days

Yr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern ac aeth ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n byw ym Merlin am sawl blwyddyn, ac mae ganddi ddarn o waith celf gyhoeddus yn y ddinas sydd wedi ei wneud allan o gregyn gleision o'r Fenai. Mae hi hefyd yn cael ei hadnabod fel bardd ac yn aelod o'r grŵp Cywion Cranogwen ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiadau fel Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ar BBC Radio Cymru. Yn fam i ddau o fechgyn, Emil a Macsen ac yn briod gydag Iwan Rhys. Cawn hanes difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys un gan Jean Michel Jarre.

Programme Website
More episodes

Tracklist

  1. Track
    Artist
  2. 1.
    Oxygene, Pt. 4
    Oxygene, Pt. 4
    Jean‐Michel Jarre
  3. 2.
    99 Luftballons (Remastered 2024)
    99 Luftballons (Remastered 2024)
    Nena
  4. 3.
    Aderyn Pur
    Aderyn Pur
    Mary Hopkin
  5. 4.
    Passing
    Passing
    Lord of the Isles & Ellen Renton