Episode details

Radio Cymru,12 May 2019,52 mins

Dylan Huws

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Beti George yn sgwrsio gyda Dylan Huws, Rheolwr-Gyfarwyddwr Cwmni Da. Celf oedd yn mynd â'i fryd yn yr ysgol, a mae'n cofio'r bwrlwm a'r cyffro wrth astudio'r pwnc yn Lerpwl ddiwedd y 70au. Darlithiodd mewn celf am rai blynyddoedd, cyn cael cynnig swydd gyda chwmni teledu, a bwrw ei brentisiaeth ar y gyfres Hel Straeon. Yn un o sylfaenwyr Cwmni Da, yn ddiweddar daeth y cwmni i fod yn un sydd ym mherchenogaeth ei weithwyr. Mae'n trafod pwysigrwydd gwrando ar eich greddf, rhedeg, Deian a Loli, a her cystadlu'n y farchnad deledu ryngwladol.

Programme Website
More episodes