Episode details

Radio Cymru,16 Dec 2018,48 mins

Sally Holland

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Cafodd Sally Holland ei phenodi'n Gomisiynydd Plant Cymru yn 2015. O’r Alban yn wreiddiol, cwrddodd â Chymro o Gasnewydd wrth weithio gyda phobl ddigartref yn Llundain. Fe briodon nhw, gan benderfynu byw yng Nghymru am gyfnod, ac yna symud i'r Alban. Flynyddoedd yn ddiweddarach, yng Nghymru maen nhw o hyd! Roedd diddordeb mewn hawliau a chyfiawnder cymdeithasol yn amlwg yn nheulu Sally, a mae hynny wedi dylanwadu'n fawr arni. Roedd un perthynas yn Siartydd, ac yn aelod o'r Rochdale Pioneers a oedd yn gyfrifol am sefydlu'r mudiad cydweithredol. Y sylweddoliad nad yw'r byd yr un mor deg i bawb sbardunodd Sally i faes gwaith cymdeithasol. Fel Comisiynydd Plant, mae wedi ymgynghori'n helaeth gyda phlant a phobl ifanc, ac yn angerddol dros roi cyfle iddynt i fynegi barn, ac i gyflawni eu potensial.

Programme Website
More episodes