Main content

Trac yr Wythnos: Ghazalaw - Seren Syw

Trac yr Wythnos yw Seren Syw gan Ghazalaw

Trac yr Wythnos: Ghazalaw - Seren Syw

Mae Ghazalaw yn grwp sydd wedi uno cerddorion o Gymru ac India. Dechreuodd y cyfan nôl yn 2012 pan wnaeth Gwyneth Glyn gyfarfod cerddor o India – Tauseef Akhtar. Ers hynny, mae Gwyneth wedi ymweld â Mumbai (cartref Tauseef) nifer o weithiau, gan berfformio ar y cyd ym Mumbai, Chennai a Delhi.

Mae nifer o gerddorion eraill hefyd yn rhan o’r prosiect, yn cynnwys Georgia Ruth, ac yn 2013, fe berfformiodd Ghazalaw yng Ngŵyl Womex yng Nghaerdydd, gan blethu cerddoriaeth werin Cymru ac India mewn ffordd hyfryd ac unigryw.

Mae albym gyntaf Ghazalaw allan ar Fedi'r 25ain ar label Cerys Matthews Marvels Of The Universe. Bydd Ghazalaw ar daith fis Tachwedd yn hyrwyddo’r albym – mae chwech o gigs led-led Cymru.

Dolenni perthnasol